Ffilm anime Japaneaidd yw The Cat Returns (猫の恩返し Neko no Ongaeshi) wedi ei gynhyrchu gan Studio Ghibli. Cafodd ei ryddhau yn Japan yn 2002 ac yn yr Unol Daleithiau yn 2003.[1]

The Cat Returns
Enghraifft o'r canlynolffilm anime, ffilm animeiddiedig Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
GwladJapan Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi19 Gorffennaf 2002, 13 Gorffennaf 2005, 2002 Edit this on Wikidata
Genredrama anime a manga, ffantasi anime a manga, anime a manga antur, ffilm ffantasi, ffilm i blant, ffilm ddrama, ffilm glasoed Edit this on Wikidata
Cyfreslist of Studio Ghibli works Edit this on Wikidata
Prif bwnccath, hapusrwydd, maturity, escapism Edit this on Wikidata
Hyd75 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrHiroyuki Morita Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrToshio Suzuki Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuStudio Ghibli, Toho Edit this on Wikidata
CyfansoddwrYuji Nomi Edit this on Wikidata
DosbarthyddToho, Netflix, HBO Max Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolJapaneg Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.ghibli.jp/works/baron/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes merch o'r enw Haru ([haɾu]) sydd yn gallu siarad â chathod yw The Cat Returns. Un diwrnod wrth gerdded adref o ysgol, mae'n gweld cath yn croesi ffordd brysur ac yn dod yn agos at gael damwain. Rhed Haru ar ei hôl yng nghanol y ffordd ac mae'n ei hachub rhag cael ei tharo gan lori. Mae'n dysgu mai tywysog Teyrnas y Cathod oedd y gath honno, ac ymysg rhoddion o ddiolchgarwch gan ei thrigolion, derbynia hi wahoddiad i ymweld â'r deyrnas yn ogystal â phriodi'r tywysog.

Gan deimlo'n anobeithiol, clywa Haru lais sydd yn ei hannog i chwilio am Fiwro'r Cathod. Mae cath dew o'r enw Muta yn ei harwain yna, lle cwrddant â Toto (brân), a'r Barwn; ffiguryn o gath a ddaeth yn fyw (o'r ffilm flaenorol, Whisper of the Heart). Wrth ddyfeisio cynllun i helpu Haru, fe'i chipiwyd hithau a Muta i'r deyrnas gan weithwyr y brenin, gan adael i Toto a'r Barwn ceisio eu dilyn.

Yn Nheyrnas y Cathod, mae Haru yn dechrau gweddnewidio i mewn i gath. Mae'r brenin yn cynnal gwledd ar ei chyfer gydag adloniant a pherfformiadau, ond nid oes ganddi unrhyw ddiddordeb. Ymddangosa'r Barwn mewn cuddwisg i'w rhybuddio bod angen iddi beidio ag anghofio ei gwir hunaniaeth. Ar ôl cael ei ddarganfod fel y Barwn, y mae yntau a Haru'n ceisio dianc gyda chymorth Yuki, cath wen sydd yn gweithio fel morwyn i'r brenin. Er mwyn dychwelyd i'r byd dynol mae'n rhaid i'r Barwn, Haru a Muta ddatrys drysfa a dringo tŵr uchel - ond mae gan y brenin nifer o ffyrdd o'u twyllo.

Dychwela'r tywysog i'r deyrnas gan ddatgelu i'w dad nad oes ganddo ddiddordeb mewn priodi Haru. Ym mhen hir a hwyr, mae'r Barwn, Haru a Muta yn cyrraedd yn ôl yn y byd dynol, ac mae Haru wedi troi yn ôl i fod yn ferch, yn llawn hunan-hyder ac ymddygiad cadarnhaol tuag at fywyd.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu