The Doctor of Myddfai
Opera gan Syr Peter Maxwell Davies yw The Doctor of Myddfai (1996).[1] Mae'n seiliedig yn fras ar y chwedlau a thraddodiadau sy'n ymwneud â Meddygon Myddfai, teulu o feddygon yn ardal Myddfai yn yr Oesoedd Canol, ond fe'i lleolir mewn cymdeithas dotalitaraidd fel yr un a bortreadir yn y nofel 1984 gan George Orwell.[2]
Y cyfansoddwr yn 2012 | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Cymeriadau | Swyddog 1af, Ail swyddog, Y Meddyg, y llywodraethwr, Y plentyn, 3ydd swyddog |
Libretydd | David Pountney |
Lleoliad y perff. 1af | theatr Newydd |
Cyfansoddwr | Peter Maxwell Davies |
Ysgrifennwyd y libreto gan David Poutney i ddathlu hanner canmlwyddiant sefydlu Opera Cenedlaethol Cymru.[3]
Cafodd yr opera ei perfformiad cyntaf yn y Theatr Newydd, Caerdydd, ar 5 Mehefin 1996.
Rolau
golyguRôl | Llais | Cast y Premiere, 5 Mehefin 1996 (Arweinydd: Richard Armstrong) |
---|---|---|
Y Meddyg | high bariton | Paul Whelan |
Y plentyn, merch tua 12 mlwydd oed | soprano | Lisa Tyrrell |
Y Llywodraethwr | Bas | Gwynne Howell |
Swyddog 1af | mezzo-soprano | |
2il swyddog | contralto | |
3ydd swyddog, Swyddog diogelwch | high soprano | |
10 Gweinidog, yn cynrychioli 10 parth | 2 soprano, 3 mezzo-soprano 2 tenors, 3 baswr |
|
2 porthor | tenor a bariton | |
3 merch | soprano, mezzo-soprano, a chontralto |
|
5 grŵp o swyddogion | 7 soprano, 6 mezzo-soprano, 5 tenor, 6 bass-baritone |
|
3 Giard | rôlau mud | |
Corws o bobl (SATB) |
Crynodeb
golyguCefndir y chwedl
golyguSyrthiodd bugail mewn cariad â merch brydferth a ymddangosodd yn Llyn y Fan Fach, llyn lle'r oedd yn gofalu am ei braidd. Priododd hi ar ôl pasio'r prawf o'i gwahaniaethu oddi wrth ei dwy chwaer. Fodd bynnag, roedd amod ar eu priodas. Pe bai'n ei tharo deirgwaith yn ystod eu priodas, byddai'n dychwelyd i'r llyn, gan gymryd yr holl gyfoeth roedd hi wedi dod efo hi. Yn y diwedd fe darodd hi am y trydydd tro. Dychwelodd i'r llyn yn unol â'i rhybudd, ond gadawodd ei phwerau iachau iddo ef a'i ddisgynyddion. Daethant yn Feddygon Myddfai.[4]
Yr opera
golyguMae'r Meddyg yn poeni am glefyd newydd rhyfedd sydd wedi torri allan ac yn ailadrodd y chwedl i'w Blentyn. Mae'r afiechyd yn digwydd pryd bynnag y bydd unrhyw un yn derbyn ergyd yn y glaw. Mae'r clais sy'n deillio o hyn yn ymledu dros y corff cyfan. Mae'r rhai sydd â'r afiechyd yn ysu am iachâd gan Y Doctor. Mae ef a thorf o'r sâl (corws yn canu emynau Cristnogol Cymraeg) yn ymgynnull wrth y llyn.
Mae'r Doctor yn ceisio dweud wrth y Llywodraethwr am y clefyd, ond mae'r Llywodraethwr yn ei ddiswyddo ac yn ceisio claddu'r stori. Serch hynny, mae aflonyddwch ar y Llywodraethwr ac mae'n ceisio cysur gyda menyw sy'n troi allan i fod y Meddyg. Yn y gwrthdaro sy'n dilyn yn y glaw, mae'r Meddyg yn taro'r Llywodraethwr, gan ei heintio â'r afiechyd rhyfedd.
Mae'r Cyngor Gwladol yn trafod yr argyfwng a achoswyd gan absenoldeb y Llywodraethwr. Mae'r Llywodraethwr yn ymddangos yn y pen draw ac yn mynnu ei fod yn cael ei gludo i'r llyn i gael ei wella. Yno, mae'r Meddyg yn gwrthod ei wella. Mae torf o'r sâl yn cyrraedd y llyn ac yn eu hanobaith am iachâd yn sathru'r Meddyg i farwolaeth. Mae'r Plentyn yn cyrraedd, ac yn gorchymyn i'r Llywodraethwr i gerdded i mewn i'r llyn. Mae hi'n dod yn Feddyg newydd Myddfai, gan bregethu ymwared trwy adrodd enwau perlysiau a blodau.
Recordiadau
golygu- The Doctor of Myddfai (Paul Whelan, Lisa Tyrrell, Gwynne Howell ac ati.; Cerddorfa a Chorws Opera Cenedlaethol Cymru; Richard Armstrong, arweinydd) Recordiwyd yn fyw, 5 Hydref 1996. Label: Collins Classics 70462 [5]
Cyfeiriadau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Doctor of Myddfai". Oxford Reference. doi:10.1093/oi/authority.20110803095724347. Cyrchwyd 2020-10-01.
- ↑ "Peter Maxwell Davies Doctor of Myddfai - Opera". www.boosey.com. Cyrchwyd 2020-10-01.
- ↑ "Gwobrau Dewi Sant - David Pountney CBE". Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 2020-10-01.
- ↑ "Review - The Doctor of Myddfai". Gramophone. Cyrchwyd 2020-10-01.[dolen farw]
- ↑ "Davies: The Doctor of Myddfai - Opera News | HighBeam Research". web.archive.org. 2012-10-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-22. Cyrchwyd 2020-10-01.