Nineteen Eighty-Four

(Ailgyfeiriad o 1984 (nofel))

Nofel am fyd dystopig gan George Orwell yw Nineteen Eighty-Four. Wedi ei ysgrifennu yn 1948 a'i chyhoeddi yn yr un flwyddyn, mae’r llyfr yn enwog trwy’r byd. Mae'r stori yn canolbwynto ar gymeriad o'r enw Winston, sydd yn gweithio yng Ngweinyddiaeth y Gwir (Saesneg: Ministry of Truth), a'i gyfataliad gan senedd dotalitaraidd gwlad Oceana, lle mae o’n byw. Mae effaith y llyfr yn amlwg ar yr iaith Saesneg. Mae'r ansoddair "Orwellian" yn cael ei ddefnyddio yn llawer ynglŷn â diogelwch y wlad a phreifatrwydd personol. Hefyd, mae'r geiriau "Big Brother is watching you" yn cael eu defnyddio gan bobol lle bynnag y siaredir Saesneg. Fel Brave New World gan Aldous Huxley, mae Nineteen Eighty-Four wedi cael ei weld fel llyfr gwahanol a pheryglus i ddiogelwch gwladwriaethau. Am y rheswm hwnnw, mae'r llyfr wedi cael ei wahardd mewn sawl gwlad.

Nineteen Eighty-Four
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurGeorge Orwell Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Newspeak Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1949 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1948 Edit this on Wikidata
Genreffuglen wyddonol am gymdeithas, ffuglen wleidyddol, gwyddonias, ffuglen ddystopaidd Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganAnimal Farm Edit this on Wikidata
CymeriadauWinston Smith, Julia, Big Brother, O'Brien, Emmanuel Goldstein Edit this on Wikidata
Prif bwncgwyliadwraeth gorfodol gan y wladwriaeth, hawliau dynol, rhyddid meddwl, totalitariaeth Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint, dan hawlfraint, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLlundain, Oceania Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Drafft gan Orwell o'i nofel.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.