The Famous Five (cyfres o nofelau)

Cyfres o nofelau antur i blant a ysgrifennwyd gan yr awdur Saesnig Enid Blyton yw The Famous Five. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf, Five on a Treasure Island, ym 1942.[1] Mae'r nofelau'n cynnwys anturiaethau grŵp o blant ifanc - Julian, Dick, Anne a Georgina (George) a'u ci Timmy.[2] Cyfieithwyd rhai o straeon byr y gyfres i'r Gymraeg gan Manon Steffan Ros fel cyfres y Pump Prysur.[3]

Clawr argraffiad 1af Five on a Treasure Island (1942)

Braslun golygu

Mae'r straeon yn digwydd yn ystod gwyliau ysgol y plant ar ôl iddynt ddychwelyd o'u hysgolion preswyl priodol. Bob tro maen nhw'n cwrdd maen nhw'n cael eu dal mewn antur, yn aml yn cynnwys troseddwyr neu drysor coll. Weithiau mae'r olygfa wedi'i lleoli'n agos at gartref teulu George yn Kirrin Cottage Swydd Dorset,[4] fel Ynys Kirrin, sy'n eiddo i deulu George ym Mae Kirrin.[5] Mae cartref George ei hun ac amryw o dai eraill y mae'r plant yn ymweld â nhw neu'n aros ynddynt yn gannoedd o flynyddoedd oed ac yn aml maent yn cynnwys rhannau cyfrinachol neu dwneli smyglwyr.

Mewn rhai llyfrau mae'r plant yn mynd i wersylla yng nghefn gwlad, ar daith gerdded neu wyliau gyda'i gilydd i rywle arall. Fodd bynnag, mae'r lleoliadau bron bob amser yn wledig ac yn galluogi'r plant i ddarganfod llawenydd syml bythynnod, ynysoedd, cefn gwlad Lloegr a Chymru a glannau'r môr, yn ogystal â bywyd awyr agored gyda bicniciau, lemonêd, teithiau beic a nofio.

Hanes golygu

Roedd Blyton yn bwriadu ysgrifennu dim mwy na chwech neu wyth o lyfrau yn y gyfres. Oherwydd eu gwerthiant uchel a’u llwyddiant masnachol aruthrol aeth ymlaen i ysgrifennu un ar hugain o nofelau Famous Five cyflawn, yn ogystal â nifer o gyfresi eraill mewn arddull debyg yn dilyn grwpiau o blant yn darganfod troseddau ar wyliau yng nghefn gwlad. Erbyn diwedd 1953 roedd mwy na chwe miliwn o gopïau wedi'u gwerthu. Heddiw, mae mwy na dwy filiwn o gopïau o'r llyfrau'n cael eu gwerthu bob blwyddyn,[6] sy'n golygu eu bod yn un o'r cyfresi sy'n gwerthu orau i blant a ysgrifennwyd erioed, gyda gwerthiant o dros gan filiwn. Mae'r holl nofelau wedi'u haddasu ar gyfer teledu, ac mae sawl un wedi'u haddasu fel ffilmiau mewn gwahanol wledydd.

Defnyddiodd cyhoeddwr Blyton, Hodder & Stoughton, y term "The Famous Five" gyntaf ym 1951, ar ôl i naw llyfr yn y gyfres gael eu cyhoeddi. Cyn hyn, cyfeiriwyd at y gyfres fel The 'Fives' Books.

Arwyr golygu

Julian golygu

Julian yw'r hynaf o'r pump, mae'n gefnder i George ac yn frawd hynaf Dick ac Anne. Mae'n dal, yn gryf ac yn ddeallus yn ogystal â gofalgar, cyfrifol a charedig. Mae Modryb Fanny yn nodi ei glyfrwch a'i ddibynadwyedd yn aml. Ef yw arweinydd y grŵp ac mae'n amddiffynnol iawn tuag at Anne. Ar ddechrau'r gyfres, mae Julian yn 12 oed. Dros amser, mae'n cyrraedd ei nod o aeddfedu'n llawn i fod yn oedolyn ifanc.

Dick golygu

Mae gan Dick synnwyr digrifwch digywilydd, ond mae hefyd yn ddibynadwy ac yn garedig ei natur. Mae'r un oed â'i chyfnither George, flwyddyn yn iau na'i frawd Julian ac yn hŷn na'i chwaer Anne - un ar ddeg ar ddechrau'r gyfres. Er ei fod yn dueddol o bryfocio ei chwaer ar brydiau, mae Dick, fel Julian, yn ofalgar iawn tuag at Anne ac yn gwneud ei orau i gadw ei hysbryd i fyny pan fydd hi'n cynhyrfu. Roedd ganddo rôl arwrol yn Five on a Treasure Island. Mae'n defnyddio ei ddeallusrwydd ac yn achub y pump mewn sawl antur.

George golygu

Mae Georgina yn hogan fachgennaidd, yn mynnu bod pobl yn ei galw hi'n George, ac mae'n torri ei gwallt yn fyr iawn ac yn gwisgo fel bachgen. Mae hi'n benben ac yn ddewr ei natur ac, fel ei thad, y gwyddonydd Quentin Kirrin, mae ganddi dymer boeth a thanbaid. Datgelodd Blyton fod y cymeriad yn seiliedig arni hi ei hun.

Mae gan George gi ffyddlon o'r enw Timmy a fyddai'n gwneud unrhyw beth drosti. Mae hi'n aml yn gwylltio pan fydd unrhyw un yn ei galw wrth ei henw iawn neu'n gwneud hwyl am ben Timmy, ac mae hi wrth ei bodd pan fydd rhywun yn ei galw hi'n George neu'n ei chamgymryd am fachgen. Yn Five Get into a Fix, mae hen Mrs Jones yn ei chamgymryd am fachgen: er bod Julian wedi dweud wrthi ei bod hi'n ferch, mae'n anghofio hyn yn ddiweddarach. Weithiau mae hi'n mynd â hyn i'r pwynt o ofyn i'w henw gael ei ragddodi gyda Master yn lle Miss.

Mae darllenwyr mwy modern wedi dehongli bod gan George ddysfforia rhywedd, ond awgrymodd Hugo Rifkind, wrth ysgrifennu yn The Times, fod ceidwadaeth Blyton yn golygu ei fod yn credu nad oedd hyn yn debygol o fod yn fwriadol. Mae'n byw adref yn y llyfr cyntaf, cyn mynychu'r un ysgol breswyl ag Anne lle mae'r athrawon hefyd yn ei galw'n 'George'.

Anne golygu

Anne yw'r ieuengaf yn y grŵp, ac yn gyffredinol mae'n gofalu am y dyletswyddau domestig yn ystod gwyliau gwersylla amrywiol y Pump. Gan mae hi yw'r ieuengaf, mae hi'n fwy tebygol na'r lleill o gael ofn, ac nid yw yn wir mwynhau'r anturiaethau gymaint â'r lleill. Mae hi'n ddeg oed yn llyfr cyntaf y gyfres. Weithiau mae hi'n o'r siaradus, ond yn y pen draw mae hi mor ddewr a dyfeisgar â'r lleill. Mae hi'n hoffi gwneud y pethau domestig fel cynllunio, trefnu a pharatoi prydau bwyd, a chadw y lle maen nhw'n aros yn lân ac yn daclus, boed yn ogof, tŷ, pabell neu garafán. Yn Smuggler's Top awgrymir ei bod yn glawstroffobig, gan ei bod yn ofni lleoedd caeedig, sy'n ei hatgoffa o freuddwydion drwg. Ond yn ddieithriad mae'r anturiaethau'n arwain y pump i mewn i dwneli, i lawr ffynhonnau, ac i mewn i ddaeargelloedd a lleoedd caeedig eraill, gan ddangos pa mor ddewr yw hi mewn gwirionedd.

Timmy golygu

Ci ffyddlon George yw Timmy. Mae'n gyfeillgar iawn; mae'n glyfar, yn serchog ac yn deyrngar i'r plant ac i George yn benodol; mae'n darparu amddiffyniad corfforol iddynt lawer gwaith. Mae George yn addoli Timmy ac yn meddwl mai ef yw'r ci gorau yn y byd, ac yn aml mae'n mynd yn ddig pan fydd pobl yn ei sarhau. Yn llyfr cyntaf y gyfres, mae rhieni George wedi ei gwahardd rhag cadw Timmy, ac mae hi'n cael ei gorfodi i'w guddio gyda bachgen pysgota yn y pentref. Ar ôl diwedd antur gyntaf y Pump, mae ei rhieni'n ildio ac mae hi'n cael ei gadw yn y tŷ.

Ffrindiau agos golygu

Alf, y pysgotwr golygu

Mae Alf yn ymddangos yn y mwyafrif o'r llyfrau sydd wedi'u gosod yn Kirrin Cottage neu ar Ynys Kirrin. Yn y llyfr cyntaf, ar ôl i rieni George ei gwahardd rhag cadw'r ci, mae Alf yn cadw Timmy ar ei rhan. Mae Timmy yn addoli Alf. Mae Alf hefyd yn gofalu am gwch George. Mewn llyfrau diweddarach, dim ond ar ôl cwch George y mae Alf bellach yn gofalu, wrth i rieni George adael i Timmy aros yn y tŷ.

Jo, y ferch dlawd golygu

Mae Jo, clyfar ond gwyllt, yn ymuno â'r Pump ar sawl antur ar ddiwedd y gyfres. Mae hi tua'r un oed â'r plant ac yn rhampen, fel George. Roedd ei rhieni yn y syrcas, ond gadawodd ei mam a charcharwyd ei thad am ddwyn. Mae hi'n edmygu Dick ac yn meddwl y byd ohono.

Joanna / Joan golygu

Joanna yw ceidwad y tŷ yn nhŷ George. Mae hi'n fenyw hynod garedig sydd yn aml yn bresennol yn Kirrin Cottage pan fydd Ewyrth Quentin a Modryb Fanny yn mynd i ffwrdd i rywle. Mae'r pedwar cefnder yn hoff iawn ohoni. Cyfeirir ati weithiau fel Joan.

Teulu golygu

Modryb Fanny golygu

Mam George yw Fanny, a modryb i Dick, Julian ac Anne. Mae'n briod ag Ewyrth Quentin, a hi, trwy'r rhan fwyaf o nofelau Famous Five Blyton, yw'r prif ffigur mamol ym mywydau'r plant. Mae hi'n fenyw garedig a rhwydd iawn ac yn dangos cryn amynedd gyda'i gŵr dros ei dymer fer a'i feddwl absennol.

Ewyrth Quentin golygu

Quentin yw tad George, a gwyddonydd byd-enwog, sy'n cael ei herwgipio neu ei ddal yn wystl yn nifer o anturiaethau'r plant. Mae ganddo dymer gyflym ac nid oes ganddo lawer o oddefgarwch i'r plant ar wyliau ysgol, ond serch hynny mae'n ŵr, tad ac ewythr cariadus a gofalgar, ac mae'n hynod falch o'i ferch. Mae hefyd yn dueddol o fod yn absennol iawn ei feddwl, gan ei fod yn ei chael hi'n anodd diffodd o'i waith a bod yn barod i fywyd bob dydd. Er gwaethaf ei enwogrwydd fel gwyddonydd, nid yw ei waith yn ennill llawer o arian iddo. Yn llyfr cyntaf y gyfres, datgelir ei fod yn frawd i dad Julian, Dick ac Anne.

Mam Anne golygu

Mae mam Anne, yn ddynes glên iawn. Yn Five go off in a Caravan, mae hi'n perswadio tad Anne i adael iddyn nhw fynd i ffwrdd mewn carafán.

Llyfryddiaeth golygu

  • Five on a Treasure Island (1942) [7]
  • Five Go Adventuring Again (1943)
  • Five Run Away Together (1944)
  • Five Go to Smuggler's Top (1945)
  • Five Go Off in a Caravan (1946)
  • Five on Kirrin Island Again (1947)
  • Five Go Off to Camp (1948)
  • Five Get into Trouble (1949)
  • Five Fall into Adventure (1950)
  • Five on a Hike Together (1951)
  • Five Have a Wonderful Time (1952)
  • Five Go Down to the Sea (1953)
  • Five Go to Mystery Moor (1954)
  • Five Have Plenty of Fun (1955)
  • Five on a Secret Trail (1956)
  • Five Go to Billycock Hill (1957)
  • Five Get into a Fix (1958)
  • Five on Finniston Farm (1960)
  • Five Go to Demon's Rocks (1961)
  • Five Have a Mystery to Solve (1962)
  • Five Are Together Again (1963)

Pump Prysur golygu

Ysgrifennodd Blyton hefyd, wyth o straeon byrion yn cynnwys y cymeriadau, a gasglwyd at ei gilydd ym 1995 fel Five Have a Puzzling Time and Other Stories [8]. Y Straeon byrion hyn yw sail y gyfres Pump Prysur a addaswyd i'r Gymraeg gan Manon Steffan Ros yn 2014 – 2015. Darluniwyd y llyfrau gan Jamie Littler.

Yn y Pump Prysur enwau'r cymeriadau yw Siôn (Julian), Dic (Dick), Jo (George), Ani (Anne) a Twm (Timmy'r ci).

 
Clawr Pump mewn Penbleth
Llyfrau'r Pump Prysur Addasiad o:
Pump mewn Penbleth [9] Five Have a Puzzling Time
Mae Gwallt Jo yn Rhy Hir [10] George's Hair is Too long
Go Dda, Twm [11] Good Old Timmy
Pnawn Diog [12] A Lazy Afternoon
Da iawn, Pump Prysur [13] Well Done Famous Five
Yr Antur Hanner Tymor [14] Five and a Half Term Adventure
Nadolig Llawen Pump Prysur [15] Happy Christmas Five
Twm yn Hela Cathod [16] When Timmy Chased the Cat

Cyfeiriadau golygu

  1. Dennison, Matthew (2017-05-11). "The Famous Five are 75: Plucky children with love of ginger beer still going strong". Express.co.uk. Cyrchwyd 2019-11-04.
  2. Bradbury, Lorna (2010-09-17). "Enid Blyton's Famous Five". ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2019-11-04.
  3. "www.gwales.com - 9781910574416, Pecyn Cyfres Pump Prysur". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-04.
  4. "Enid Blyton characters and locations based on the people and places of Dorset". Dorset. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-30. Cyrchwyd 2019-11-04.
  5. "Enid Blyton - Lashings of Information about the Children's Author". www.enidblyton.net. Cyrchwyd 2019-11-04.
  6. "'Famous Five' are childhood favourite". The Independent. 2004-08-23. Cyrchwyd 2019-11-04.
  7. "All the Famous Five books in order:-". Toppsta. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2019.
  8. Blyton, Enid (2009). Famous Five short story collection. London: Hodder Children's. ISBN 9780340932490. OCLC 339619972.
  9. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Pump mewn penbleth. Aberystwyth. ISBN 9781910574164. OCLC 934937723.
  10. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Mae gwallt Jo yn rhy hir. Aberystwyth. ISBN 9781909666849. OCLC 1050557383.
  11. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Go dda, Twm. Aberystwyth. ISBN 9781909666856. OCLC 1050525795.
  12. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Pnawn diog. Aberystwyth. ISBN 9781909666832. OCLC 1050543996.
  13. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Da iawn, Pump Prysur. Aberystwyth. ISBN 9781910574157. OCLC 934937695.
  14. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Yr antur hanner tymor. Aberystwyth. ISBN 9781909666870. OCLC 1050533941.
  15. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Nadolig llawen Pump Prysur. Aberystwyth. ISBN 9781910574188. OCLC 934937763.
  16. Blyton, Enid; Steffan Ros, Manon; Littler, Jamie. Twm yn hela cathod. Aberystwyth. ISBN 9781910574171. OCLC 934937696.