The Imitation Game

ffilm ddrama am ryfel gan Morten Tyldum a gyhoeddwyd yn 2014

Ffilm hanesyddol o 2014 ydy The Imitation Game. Fe'i cyfarwyddwyd gan Morten Tyldum, ac ysgrifennwyd y sgript gan Graham Moore yn seiliedig ar fywgraffiad Alan Turing: The Enigma gan Andrew Hodges. Mae'r ffilm yn serennu Benedict Cumberbatch fel y cêl-ddadansoddwr o Sais Alan Turing, a ddatrysodd y Cod Enigma yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyn cael ei erlyn am ei gyfunrywioldeb. Chwaraea Keira Knightley ran cydweithiwr Turing, Joan Clarke.

The Imitation Game

Poster y ffilm
Cyfarwyddwr Morten Tyldum
Cynhyrchydd Nora Grossman
Ido Ostrowsky
Teddy Schwarzman
Ysgrifennwr Graham Moore
Serennu Benedict Cumberbatch
Keira Knightley
Matthew Goode
Rory Kinnear
Charles Dance
Mark Strong
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Black Bear Pictures
FilmNation Entertainment
Bristol Automotive
Dosbarthydd StudioCanal
The Weinstein Company
Amser rhedeg 114 munud
Gwlad UDA
Iaith Saesneg, Almaeneg
Cyllideb $14 miliwn[1]
Refeniw gros $157.9 miliwn[2]

Prynodd The Weinstein Company y ffilm am $7 miliwn yn Chwefror 2014, y swm uchaf erioed am hawliau dosbarthu ffilm yn yr Unol Daleithiau wrth y Farchnad Ffilm Ewropeaidd. Cafodd ei rhyddhau mewn theatrau yn y Deyrnas Unedig ar 14 Tachwedd ac ar 28 Tachwedd yn yr UDA.

Roedd The Imitation Game yn llwyddiant masnachol ac ymhlith y beirniaid. Erbyn Chwefror 2015, roedd hi wedi gwneud $157 miliwn yn fyd-eang ond gyda chost cynhyrchu o $14 miliwn yn unig. Dyma oedd y ffilm annibynnol i wneud yr arian mwyaf yn 2014. Cafodd ei henwebu am wyth o Wobrau'r Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau, y Cyfarwyddwyr Gorau (i Tyldum), yr Actor Gorau (Cumberbatch), a'r Actores Gefnogol Orau (Knightley). Derbyniodd naw enwebiad BAFTA hefyd, gan gynnwys y Ffilm Orau a'r Ffilm Brydienig Eithriadol.

Anrhydeddwyd y cast a'r criw gan grwpiau hawliau LHDT am gyflwyno hanes Turing i gynulleidfa ehangach. Fodd bynnag, beirniadodd rhai haneswyr y ffilm am ei darlun anghywir o gymeriad a perthynasau Turing.

Cyfarwyddwr golygu

 

Ganwyd y cyfarwyddwr ffilm Morten Tyldum ar 19 Mai 1967 yn Bergen. Derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Bergen.

Derbyniad golygu

Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:

  • 7.7/10[3] (Rotten Tomatoes)
  • 90% (Rotten Tomatoes)
  • 71/100

. Ymhlith y gwobrau a enillwyd y mae Bwrdd Adolygu Cenedlaethol: Y Deg Ffilm Orau.

Cafodd ei henwebu am y gwobrau canlynol: European Film Award – People's Choice Award for Best European Film. Mae'r incwm a dderbyniwyd am y ffilm hon dros 233,555,708 $ (UDA).

Gweler hefyd golygu

Cyhoeddodd Morten Tyldum nifer o ffilmiau gan gynnwys y canlynol:

Rhestr Wicidata:

Ffilm Delwedd Gwlad Iaith wreiddiol dyddiad
Buddy Norwy Norwyeg 2003-08-29
Defending Jacob Unol Daleithiau America
En mann må gjøre det'n må... Norwy Norwyeg
Fallen Angels Norwy
Unol Daleithiau America
Saesneg 2008-01-01
Folk flest bor i Kina Norwy Norwyeg 2002-01-01
Headhunters Norwy
yr Almaen
Norwyeg
Daneg
2011-08-04
Jack Ryan Unol Daleithiau America Saesneg
Passengers
 
Unol Daleithiau America
Awstralia
Saesneg 2015-12-21
The Crossing 2017-12-10
The Imitation Game Unol Daleithiau America Saesneg 2014-08-29
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau golygu

  1.  The Weinstein Co. Special: How They Turned 'Imitation Game' Director Into an Oscar Contender.
  2.  The Imitation Game (2014) - Box Office Mojo.
  3. "The Imitation Game". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd 18 Ebrill 2022.