Alan Turing
Mathemategydd, a rhesymegydd o Loegr oedd Alan Mathison Turing, OBE (23 Mehefin 1912 - 7 Mehefin 1954).
Alan Turing | |
---|---|
Ganwyd | Alan Mathison Turing 23 Mehefin 1912 Maida Vale, Warrington Lodge |
Bu farw | 7 Mehefin 1954 o gwenwyno gan syanid Wilmslow |
Man preswyl | Maida Vale, Guildford |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | gwyddonydd cyfrifiadurol, mathemategydd, academydd, cryptograffwr, rhesymegwr, ystadegydd, rhedwr marathon, ymchwilydd deallusrwydd artiffisial |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | On Computable Numbers, with an Application to the Entscheidungsproblem, Computing Machinery and Intelligence, Intelligent Machinery, halting problem, Turing machine, Prawf Turing, Turing completeness, Church-Turing thesis, universal Turing machine, Symmetric Turing machine, non-deterministic Turing machine, Bombe, probabilistic Turing machine, Turing degree |
Prif ddylanwad | Max Newman |
Tad | Julius Mathison Turing |
Mam | Ethel Sara Stoney |
Partner | Christopher Morcom |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, OBE, Smith's Prize |
Gwefan | http://www.turingarchive.org/ |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Fe ddatblygodd gysyniad o'r enw peiriant Turing, sy'n ffurfioli'r hyn mae cyfrifiaduron yn gallu gwneud. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yn gweithio ym Mharc Bletchley, y ganolfan brydeinig ar gyfer torri'r codau a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfathrebu milwrol. Dyfeisiodd sawl techneg o dorri codau Almaenig, gan gynnwys peiriant o'r enw y bombe a oedd yn canfod dewisiadau peiriant Enigma.
Ar ôl y rhyfel, bu'n gweithio yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol, ac yna ym Mhrifysgol Manceinion lle'r oedd yn gweithio ar feddalwedd ar gyfer Marc I Manceinion, un o'r gwir-gyfrifiaduron cyntaf yn y byd.
Ym 1952, fe'i gafwyd yn euog o "weithredoedd anweddus dygn" wedi iddo gyfaddef cael perthynas rhywiol gyda dyn ym Manceinion. Fe'i rhoddwyd ar brofiannaeth prawf a gorfodwyd i dderbyn triniaeth hormonaidd. Ar 11 Medi 2009 darparodd y Prif Weinidog Gordon Brown ymddiheuriad swyddogol 55 o flynyddoedd ar ôl marwolaeth Turing, am y modd "gwarthus" y cafodd ei drin. Dywedodd Brown ei fod yn "hynod flin" am y driniaeth a gafodd Turing, wedi iddo dderbyn deiseb o dros 30,000 o enwau yn gofyn am ymddiheuriad.[1]
Bu farw ar ôl bwyta afal gyda cyanid ynddo. Tybia lawer mai hunanladdiad ydoedd.
Portreadau mewn diwylliant fodern
golyguSeiliwyd y ffilm "The Imitation Game" a ryddhawyd yn 2014 ar fywyd Turing, gyda'r actor Benedict Cumberbatch yn chwarae'r prif gymeriad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.dailymail.co.uk/news/article-1212703/Gordon-Brown-apologises-gay-WW2-code-breaker-Alan-Turing-appalling-persecution.html. Daily Mail. 11-09-2009. Adalawyd 11-09-2009.