The Mystery of the Disappearing Cat
The Mystery of the Disappearing Cat (1944) yw'r ail lyfr yng nghyfres nofelau dirgelwch i blant gan Enid Blyton y Five Find-Outers. Fe’i cyhoeddwyd gan Methuen and Co Ltd ac mae’n dilyn y llyfr cyntaf yn y gyfres, The Mystery of the Burnt Cottage. Mae'n stori’n ymwneud â chath sydd wedi'i dwyn a'r grŵp o blant sy'n ceisio gweithio allan sut cyflawnwyd y drosedd a phwy oedd y troseddwr.[1]
Clawr yr argraffiad 1af | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Enid Blyton |
Cyhoeddwr | Methune |
Gwlad | Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1944 |
ISBN | 9781405203944 |
Darlunydd | Joseph Abbey |
Genre | Llyfrau plant, Nofel |
Cyfres | Five Find-outers |
Rhagflaenwyd gan | The Mystery of the Burnt Cottage |
Olynwyd gan | The Mystery of the Secret Room |
Plot
golyguMae Luke, ffrind i'r darganfyddwyr, yn gweithio yng ngardd yr Arglwyddes Candling pan fydd ei chath Siam werthfawr yn cael ei dwyn. Mae'r Pum Darganfyddwr a'u Ci yn gweithio i ddatrys yr achos.[2]
Cymeriadau
golygu- Elizabeth (Bets) - Yr ieuengaf o'r Pum Darganfyddwr
- Philip (Pip) - Aelod o'r Pum Darganfyddwr a brawd Bets
- Lawrence (Larry) - Pennaeth y Pum Darganfyddwr
- Margaret - Aelod o'r Pum Darganfyddwr a chwaer Larry. Hi hefyd yw sylfaenydd y grŵp o ddarganfyddwyr.
- Frederick (Fatty) - Y craffaf o'r Pum Darganfyddwr
- Buster - Daeargi Albanaidd sy'n eiddo i Frederick
- Luke - Garddwr cynorthwyol 15 mlwydd oed. Ffrind y Pum Darganfyddwr. Y sawl sydd dan amheuaeth bennaf o ddwyn Dark Queen cath Siam gwerthfawr Yr Arglwyddes Candling,.
- Yr Arglwyddes Candling - Perchennog y gath werthfawr sydd wedi'i dwyn
- Miss Harmer - Y person sy'n gofalu am gathod Yr Arglwyddes Candling
- Miss Trimble - Cydymaith Yr Arglwyddes Candling.
- Mr Tupping - Garddwr Yr Arglwyddes Candling. Amrwd, drwg tymherus, ffyrnig a chreulon i Luke, ei gynorthwyydd. Mae'n meddwl ei fod yn berchen ar yr ardd.
- Mr Goon - Plismon byrlymus y pentref, sydd eto'n methu â datrys yr achos. Ffrind i Mr Tupping.
Crynodeb
golyguMae'r cyfan yn digwydd y tŷ drws nesaf i le mae Pip a Bets Hilton yn byw. Mae cath Yr Arglwyddes Candling, sydd wedi ennill gwobrau mewn sioeau, o'r enw Dark Queen (cath Siam gwerthfawr), yn diflannu reit o dan drwyn Luke, cynorthwyydd y garddwr. Mae Mr Tupping, y garddwr, yn ddyn cas ac mae'r plant yn penderfynu ar unwaith y byddai'n wych os mae ef oedd y lleidr! Ond sut y gallai fod, gan nad oedd ar gyfyl y lle pan gafodd Dark Queen ei dwyn? Mae'r holl dystiolaeth yn pwyntio tuag at Luke ifanc druan, cynorthwyydd Mr Tupping. Ond mae'r darganfyddwyr yn cael hi'n anodd credu y byddai ef yn gwneud rhywbeth mor ysgeler.
Mae yna gwpl o bobl eraill a ddrwgdybir yn staff Yr Arglwyddes Candling, fel Miss Harmer y triniwr cathod, a Miss Trimble, sy'n gofalu am y rhosod. Maen nhw i gyd yn eithaf sicr mai Mr Tupping oedd yn gyfrifol. Ond sut ar y ddaear llwyddodd? Mae'r ateb i'r dirgelwch yn syml iawn ac yn eithaf clyfar. Fe wnaeth Mr Tupping ddwyn Dark Queen yn y bore, yna paentio darn bach o baent liw hufen ar gynffon cath arall i wneud iddo edrych fel Dark Queen. Cafodd cynffon Dark Queen ei brathu gan gath arall, gan achosi i ddarn hufennog ymddangos ar ei chynffon. Yna gwnaeth i Luke weithio wrth ochr y cawell trwy'r dydd, er mwyn iddo fo ddod dan amheuaeth o ganfod bod y drosedd wedi digwydd. Yn y prynhawn, herciodd Mr Tupping i mewn i'r cawell, rhwbiodd y paent oddi ar gynffon y gath arall gyda chadach wedi'i socian mewn tyrpant, ac yna cyhoeddodd fod Dark Queen wedi diflannu! Yn y pen draw mae'r darganfyddwyr yn canfod sut fu i Mr Tupping, cyflawni ei dric dan din. Mae'n cael ei ddal ac mae'n cael ei ddarganfod ei fod wedi bod yn gyfrifol am ddwyn anifeiliaid anwes yn y gorffennol.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Blyton, Enid. (2003). The mystery of the disappearing cat. London: Egmont. ISBN 1-4052-0394-3. OCLC 59470798.
- ↑ "The Mystery of the Disappearing Cat". Children's Books. Cyrchwyd 2020-01-08.