Tom Hiddleston
Mae Thomas William Hiddleston (ganed 9 Chwefror 1981) yn actor Seisnig. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Loki yn y Bydysawd Sinematig Marvel, ac ymddangosodd yn Thor (2011), The Avengers (2012), a Thor: The Dark World (2013). Mae hefyd wedi ymddangos yn War Horse (2011) Steven Spielberg, The Deep Blue Sea (2011), comedi rhamantaidd Woody Allen Midnight in Paris (2011), y gyfres 2012 BBC Henry IV, Henry V, a'r ffilm fampirod rhamantaidd Only Lovers Left Alive (2013). Ar y llwyfan, y mae wedi ymddangos yng nghynhyrchiadau Cymbeline (2007) ac Ivanov (2008). Ym mis Rhagfyr 2013 serennodd fel y cymeriad teitl yng nghynhyrchiad y Donmar Warehouse Coriolanus a redodd tan mis Chwefror 2014. Serennodd yn y ffilm High-Rise (2015) fel Dr. Robert Laing, cyn ymddangos yn 2016 fel Jonathan Pine ym mini-gyres y BBC, The Night Manager.
Tom Hiddleston | |
---|---|
Ganwyd | Thomas William Hiddleston 9 Chwefror 1981 Westminster |
Man preswyl | Belsize Park |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, digrifwr, cerddor, actor teledu, cynhyrchydd ffilm, actor |
Tad | James Norman Hiddleston |
Mam | Diana Patricia Servaes |
Priod | Zawe Ashton |
Partner | Taylor Swift |
Gwobr/au | Gwobr y Golden Globe i'r Actor Gorau - Cyfres Bitw neu Ffilm Deledu, Gwobr Laurence Olivier i'r Niwbi Gorau mewn Drama, Gwobr MTV Movie am Ffeit Orau, Gwobr Laurence Olivier, Gwobr Deledu MTV i'r Dyn Cas Gorau, Empire Award for Best Male Newcomer, Empire Hero Award |
llofnod | |
Enillodd y Wobr Laurence Olivier ar gyfer yr Actor Newydd Gorau mewn Drama ar gyfer ei rôl yn Cymbeline, ac enwebwyd Hiddleston ar gyfer yr un wobr yn yr un flwyddyn ar gyfer ei rôl fel Cassio yn Othello. Yn 2011, enillodd y Wobr Empire ar gyfer yr Actor Newydd Gwrywaidd Gorau a fe'i enwebwyd ar gyfer y Wobr BAFTA ar gyfer Seren Newydd ar gyfer ei rôl yn Thor. Enillodd y Wobr Ffilm MTV ar gyfer y Frwydr Orau a'r Dihyryn Gorau yn 2013 ar gyfer ei rôl yn The Avengers. Ar gyfer ei rôl yn y ddrama 2013 Coriolanus, enillodd Wobr Theatr yr Evening Standard ar gyfer yr Actor Gorau.
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Hiddleston yn Westminster, Llundain.[1] Mae'n fab i Diana Patricia (yn gynt Servaes) Hiddleston, gweinyddwraig gelfyddydau a chyn reolwraig siop, a James Norman Hiddleston, cemegydd ffisegol.[2] Daw ei dad o Greenock, yn yr Alban a'i fam o Suffolk, yn Lloegr.[3] Mae ei chwaer iau, Emma, hefyd yn actores, ac mae ei chwaer hŷn, Sarah, yn newyddiadurwraig yn India.[4] Ar ochr ei fam, mae'n hen ŵyr i'r Is-Lyngesydd Reginald Servaes, ac hen-hen-ŵyr i'r cynhyrchydd bwyd Syr Edmund Vestey.[5] Yn ei flynyddoedd cynar, fe'i fagwyd yn Wimbledon, ac wedyn yn Rhydychen.[3] Mynychodd yr ysgol baratoadol Ysgol y Dragon yn Rhydychen[6] ac erbyn iddo droi'n 13, roedd yn lletya yng Ngholeg Eton. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd ei rieni yn mynd trwy ysgariad. Tra'n trafod yr ysgariad mewn cyfweliad gyda The Daily Telegraph, meddai: "I like to think it made me more compassionate in my understanding of human frailty".[7]
Aeth Hiddleston yn ei flaen i astudio yng Ngholeg Penfro ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle graddiodd gydag anrhydedd-ddwbl gradd cyntaf yn y Clasuron.[8][9] Yn ystod ei ail dymor yng Nghaergrawnt, fe'i welwyd mewn cynhyrchiad o A Streetcar Named Desire gan yr asiant talent Lorraine Hamilton, o Hamilton Hodell.[10] Aeth ymlaen i astudio actio yn y Royal Academy of Dramatic Art, a graddiodd yn 2005.[11]
Bywyd personol
golyguDyluniodd ac arwyddodd Hiddleston ynghyd â Benedict Cumberbatch, Jo Brand, E. L. James a Rachel Riley, eu cardiau eu hunain ar gyfer yr elusen Brydeinig y Sefydliad Thomas Coram i Blant. Lansiwyd yr ymgyrch gan y cwmni crefftau Stampin' Up! UK a gwerthwyd y cardiau ar eBay yn ystod mis Mai 2014.[12]
Mae Hiddleston yn cefnogi cronfa'r grŵp dyngarol a datblygiadol UNICEF. Teithiodd yn 2013 i Gini i helpu menywod a phlant i godi ymwybyddiaeth am lwgu a diffyg maeth.[13]
Disgrifia Hiddleston ei hun fel ffeminydd.[14]
Ffilmyddiaeth
golyguFfilmiau
golyguBlwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau | Cyfeiriad(au) |
---|---|---|---|---|
2006 | Unrelated | Oakley | ||
2010 | Archipelago | Edward | ||
2011 | Thor | Loki | ||
2011 | Midnight in Paris | F. Scott Fitzgerald | ||
2011 | War Horse | Captain Nicholls | ||
2011 | Friend Request Pending | Tom | Ffilm fer | |
2012 | The Deep Blue Sea | Freddie Page | ||
2012 | Out of Time | Dyn | Ffilm fer | [15][16] |
2012 | The Avengers | Loki | ||
2012 | Out of Darkness | Male | Ffilm fer | [17] |
2013 | Only Lovers Left Alive | Adam | ||
2013 | Exhibition | Jamie Macmillan | ||
2013 | Thor: The Dark World | Loki | ||
2014 | Muppets Most Wanted | Great Escapo | ||
2014 | The Pirate Fairy | James Hook | Llais | [18] |
2015 | Unity | Adroddwr | Rhaglen ddogfen | |
2015 | High-Rise | Dr. Robert Laing | ||
2015 | Crimson Peak | Sir Thomas Sharpe | ||
2016 | I Saw the Light | Hank Williams | ||
2017 | Kong: Skull Island | Ôl-gynhyrchu | ||
2017 | Thor: Ragnarok | Loki | Ffilmio |
Teledu
golyguBlwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau | Cyfeiriad(au) |
---|---|---|---|---|
2001 | The Life and Adventures of Nicholas Nickleby | Lord | Ffilm deledu | |
2001 | Conspiracy | Phone Operator | Ffilm deledu | |
2001 | Armadillo | Toby Sherrifmuir | Ffilm deledu | |
2002 | The Gathering Storm | Randolph Churchill | Ffilm deledu | |
2005 | A Waste of Shame | John Hall | Ffilm deledu | |
2006 | Victoria Cross Heroes | Capt. 'Jack' Randle | Pennod: "The Modern Age" | [19] |
2006 | Suburban Shootout | Bill Hazeldine | 10 pennod | [20] |
2006 | Galápagos | Charles Darwin (llais) | Pennod: "Islands that Changed the World" | |
2007 | Casualty | Chris Vaughn | Pennod: "The Killing Floor" | |
2008 | Wallander | Magnus Martinsson | 6 phennod | [21] |
2008 | Miss Austen Regrets | Mr. John Plumptre | Ffilm deledu | |
2009 | Return to Cranford | William Buxton | 2 bennod | [22] |
2009 | Darwin's Secret Notebooks | Charles Darwin (llais) | Rhaglen ddogfen | [23] |
2012 | Robot Chicken | Lorax narrator (llais) | Pennod "Butchered in Burbank" | [24] |
2012 | Henry IV Part I and Part II | Prince Hal | Ffilm deledu | |
2012 | Henry V | Henry V | Ffilm deledu | |
2013 | Family Guy | Statue Griffin (llais) | Pennod: "No Country Club for Old Men" | [24] |
2016 | The Night Manager | Jonathan Pine | Mini-gyfres deledu |
Theatr
golyguBlwyddyn | Teitl | Rôl | Theatr | Cyfeiriad(au) |
---|---|---|---|---|
2005 | Yorgjin Oxo: The Man | Yorgjin Oxo | Theatr 503 | [25] |
2006 | The Changeling | Alsemero | Cheek by Jowl/Barbican/Taith Ewrop | [26] |
2007 | Cymbeline | Posthumus Leonatus & Cloten | Cheek by Jowl/Barbican/Taith y Byd | [10] |
2008 | Othello | Cassio | Donmar Warehouse | |
2008 | Ivanov | Lvov | Donmar Warehouse | |
2010 | The Children's Monologues | Prudence | Theatr yr Old Vic | |
2012 | The Kingdom of Earth | Lot | Theatr y Criterion | [27] |
2013 | Coriolanus | Coriolanus | Donmar Warehouse/Theatr Covent Garden | [28][29] |
Gêm fideo
golyguBlwyddyn | Teitl | Rôl lais |
---|---|---|
2011 | Thor: God of Thunder | Loki |
Radio
golyguBlwyddyn | Teitl | Rôl | Cyfarwyddwr | Nodiadau | Cyfeiriad |
---|---|---|---|---|---|
2002 | The Trial of the Angry Brigade | John Barker | Peter Kavanagh | BBC Radio 4 | |
2006 | Dracula | Jonathan Harker | Marion Nancarrow | BBC World Service | [30] |
2006 | Another Country | Tommy Judd | Marc Beeby | BBC Radio 4 | [31] |
2007 | Caesar III: An Empire Without End | Romulus | Jeremy Mortimer | BBC Radio 4 | [30] |
2008 | Othello | Cassio | Michael Grandage | BBC Radio 3 | [30] |
2008 | The Leopard | Tancredi | Lucy Bailey | BBC Radio 3 | [32] |
2008 | Cyrano de Bergerac | Christian | David Timson | BBC Radio 3 | [33] |
2009 | Carnival | Lords of Misrule | Zahid Warley | BBC Radio 3 | [34] |
Gwobrau ac enwebiadau
golyguBlwyddyn | Gwobr | Gwaith | Canlyniad | Cyfeiriad(au) |
---|---|---|---|---|
2007 | Trydedd Wobr Ian Charleson | Othello | [35] | |
2008 | Gwobr Laurence Olivier ar gyfer yr Actores Newydd Orau mewn Drama
(enwebwyd dwywaith ar gyfer rolau gwahanol) |
Othello | [36] | |
Cymbeline | [36][37] | |||
2010 | Crime Thriller Award for Best Supporting Actor | Wallander | ||
2011 | Phoenix Film Critics Society Award for Best Cast | Midnight in Paris | ||
2011 | Scream Award for Breakout Performance – Male | Thor | [38] | |
2012 | Empire Award for Best Male Newcomer | Thor | [39] | |
2012 | Evening Standard British Film Award for Best Actor | Archipelago | [40] | |
2012 | BAFTA Rising Star Award | Thor | [41] | |
2012 | Saturn Award for Best Supporting Actor | Thor | [42] | |
2012 | Teen Choice Award for Choice Movie Villain | The Avengers | [43] | |
2012 | Glamour Award for Man of the Year | [44] | ||
2013 | Kids' Choice Award for Favorite Villain | The Avengers | [45] | |
2013 | MTV Movie Award for Best Fight | The Avengers (shared with the cast) | [46] | |
2013 | MTV Movie Award for Best Villain | The Avengers | [46] | |
2014 | Empire Award for Best Supporting Actor | Thor: The Dark World | [47] | |
2014 | Laurence Olivier Award for Best Actor | Coriolanus | [48] | |
2014 | Saturn Award for Best Supporting Actor | Thor: The Dark World | [49] | |
2014 | Evening Standard Theatre Award for Best Actor | Coriolanus | [50] | |
2015 | British Independent Film Award for Best Actor | High-Rise | [51] | |
2015 | Evening Standard British Film Award for Best Actor | High-Rise; Crimson Peak | [52] |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Tom Hiddleston Biography". TV Guide. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
- ↑ Mosley, Charles; Peter Hinton; Hugh Peskett; Roger Powell (Rhagfyr 2003). Burke's Peerage, Baronetage & Knightage – 107th Edition. Burke's Peerage; 107th edition. t. 4006. ISBN 9780971196629.
- ↑ 3.0 3.1 Mottram, James (10 Mawrth 2011). "Half Scottish, Half Famous ... All Talent". Herald Scotland. Cyrchwyd 17 Ebrill 2012.
- ↑ "Tom Hiddleston – "The Avengers" Movie Interview". Whedon.com. 3 Ionawr 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-06. Cyrchwyd 7 Mai 2012.
- ↑ Rebecca Cope (11 Mehefin 2014). "Our Guide to the Brit Pack". Harper's Bazaar. Cyrchwyd 13 Awst 2014.
- ↑ "Eminent Dragons". Dragon School. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-15. Cyrchwyd 6 Miy 2012. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ Chloe Fox (14 Ionawr 2014). "Tom Hiddleston, interview: from Thor to a sell-out Coriolanus". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 4 Mawrth 2015.
- ↑ Stewart, Thomas. "Style Icon: Tom Hiddleston". Mens Fashion Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-13. Cyrchwyd 12 Mawrth 2014.
- ↑ Godwin, Richard (18 Hydref 2013). "Faking Bad: Meet Hollywood's Nicest Villain, Tom Hiddleston". London Evening Standard. Cyrchwyd 12 Mawrth 2014.
- ↑ 10.0 10.1 Patalay, Ajesh (30 Awst 2008). "Tom Hiddleston: Not Just a Romeo". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 12 Mawrth 2014.
- ↑ "Royal Academy of Dramatic Art – Tom Hiddleston". RADA. Cyrchwyd 12 Mawrth 2014.
- ↑ Rebecca Pocklington (6 Mai 2014). "Benedict Cumberbatch, Tom Hiddleston, Jo Brand and more celebrities design and sign cards for UK's first children's charity". Mirror Online. Cyrchwyd 7 Mai 2014.
- ↑ Frances Wasem (7 Mawrth 2013). "Tom Hiddleston Reports on Visiting Guinea for UNICEF". Harpers Bazaar. Cyrchwyd 3 Mehefin 2014.
- ↑ Natasha Pearlman (27 Hydref 2014). "Why is David Cameron so afraid to call himself a feminist?". Elle. Cyrchwyd 1 Mai 2015.
- ↑ Rothman, Lily (15 Mawrth 2012). "Time Style and Design: Futuristic London Fashion". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-26. Cyrchwyd 27 Medi 2012.
- ↑ "Time Magazine | Out of Time". Josh Appignanesi Official Website. Cyrchwyd 27 Medi 2012.
- ↑ @HundredsofSouls (17 Hydref 2012). "Follow short film Out of Darkness". Twitter. Cyrchwyd 19 Hydref 2012.
- ↑ "'The Pirate Fairy': Christina Hendricks and Tom Hiddleston join newest Tinkerbell movie". Entertainment Weekly. 9 Awst 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-12. Cyrchwyd 13 Awst 2013.
- ↑ Time Lewis (22 Tachwedd 2011). "How to wear black-tie – with Tom Hiddleston". Esquire. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-10. Cyrchwyd 17 Mawrth 2015.
- ↑ "Tom Hiddleston Used To Be on a Show Called "Suburban Shootout"". BuzzFeed. 11 Medi 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-16. Cyrchwyd 17 Mawrth 2015.
- ↑ Ben Dowell (10 Mehefin 2014). "Kenneth Branagh poised to film the final Wallander series next year". Radio Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-18. Cyrchwyd 17 Mawrth 2015.
- ↑ Matthew Gilbert (9 Ionawr 2010). "'Cranford' beautifully crosses two worlds". Boston.com. Cyrchwyd 17 Mawrth 2015.
- ↑ "Darwin's Secret Notebooks (2009)". Rotten Tomatoes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-22. Cyrchwyd 17 Mawrth 2015.
- ↑ 24.0 24.1 Natalie Zutter (2012). "Tom Hiddleston Is Making Family Guy A Hundred Times Funnier By Graciously Guest-Starring". Crushable. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-01. Cyrchwyd 17 Mawrth 2015.
- ↑ Smith, Alistair (14 Rhagfyr 2005). "Yorgjin Oxo – The Man". The Stage. Cyrchwyd 27 Mehefin 2012.
- ↑ Michael Coveney (17 Mai 2006). "The Changling, Barbican, London". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-20. Cyrchwyd 27 Awst 2014.
- ↑ Natalie Woolman (10 Chwefror 2012). "Tom Hiddleston: Life Beyond Learning Lines". The Stage. Cyrchwyd 27 Awst 2014.
- ↑ Mann, Sebastian (22 Hydref 2013). "Tom Hiddleston's Coriolanus Co-stars Revealed". London 24. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-23. Cyrchwyd 2016-03-29.
- ↑ Masters, Tim (20 Mai 2013). "Tom Hiddleston Cast as Coriolanus at Donmar Warehouse". BBC.
- ↑ 30.0 30.1 30.2 "Tom Hiddleston – Hamilton Hodell – CV". Hamilton Hodell Talent Management. Cyrchwyd 16 Ebrill 2013.
- ↑ "The Cambridge Spies: Another Country". BBC. Mai 2006. Cyrchwyd 27 Awst 2014.
- ↑ "BBC Radio 3 – Drama on 3, The Leopard". BBC. Cyrchwyd 27 Awst 2014.
- ↑ "BBC – Drama on 3, Cyrano de Bergerac". BBC. 23 Mawrth 2008. Cyrchwyd 27 Awst 2014.
- ↑ "BBC Radio 3 – Words and Music, Carnival". BBC. 30 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 27 Awst 2014.
- ↑ Connors, Adrienne (27 Ebrill 2008). "Rory Kinnear: the son also rises". The Sunday Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-09. Cyrchwyd 8 Tachwedd 2014. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help) - ↑ 36.0 36.1 "Tom Hiddleston declared 2008's Best Newcomer in a Play". Official London Theatre. 9 Mawrth 2008. Cyrchwyd 5 Awst 2015.
- ↑ "Tom Hiddleston declared 2008's Best Newcomer in a Play". Olivier Awards. 9 Mawrth 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-26. Cyrchwyd 26 Mawrth 2014.
- ↑ Boucher, Geoff (7 Medi 2011). "'Harry Potter,' 'X-Men: First Class' lead Scream Awards". Los Angeles Times. Cyrchwyd 7 Medi 2011.
- ↑ O'Hara, Helen (26 Mawrth 2012). "Jameson Empire Awards 2012 Winners!". Empire Online. Cyrchwyd 26 Mawrth 2014.
- ↑ "The London Evening Standard British Film Awards for 2012 Shortlist Revealed". London Evening Standard. Cyrchwyd 26 Mawrth 2014.
- ↑ "Nominees unveiled for the Orange Wednesday Rising Star Award 2012". BAFTA. Ionawr 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-26. Cyrchwyd 26 Mawrth 2014.
- ↑ "RISE OF THE PLANET OF THE APES and SUPER 8 lead Saturn Awards with 3 awards each". saturnawards.org. 26 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2012.
- ↑ "Teen Choice Awards 2012: see full list of winners". On The Red Carpet. 22 Gorffennaf 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-26. Cyrchwyd 26 Mawrth 2014.
- ↑ David, Jessica (29 Mai 2012). "Woman of the Year Winners List 2012". Glamour. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-01. Cyrchwyd 30 Mai 2012. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help) - ↑ "KCA 2013 Nominees". Nick.com. 2013. Cyrchwyd 26 Mawrth 2014.
- ↑ 46.0 46.1 "2013 Movie Awards Winners". MTV. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-26. Cyrchwyd 26 Mawrth 2014.
- ↑ "The Jameson Empire Awards 2014 Shortlist". Empire Online. Cyrchwyd 26 Mawrth 2014.
- ↑ Denham, Jess (13 Ebrill 2014). "Olivier Awards 2014: Rory Kinnear beats Jude Law and Tom Hiddleston to Best Actor for Othello". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-18. Cyrchwyd 30 Mai 2014.
- ↑ Johns, Nikara (25 Chwefror 2014). "'Gravity,' 'The Hobbit: The Desolation of Smaug' Lead Saturn Awards Noms". Variety. Cyrchwyd 14 Ebrill 2014.
- ↑ "Evening Standard Theatre Awards 2014: Tom Hiddleston and Gillian Anderson take best actor and actress at glittering London awards bash". London Evening Standard. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2014.
- ↑ "'The Lobster,' 'Macbeth,' '45 Years' Top Nominees for British Independent Film Awards". Variety (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Tachwedd 2015.
- ↑ "London Evening Standard British Film Awards return". Evening Standard (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2015.