The Saddle
Mae The Saddle (Gaeleg: An Dìollaid) yn gopa mynydd a geir ar y daith o Glen Shiel i Loch Hourn a Loch Quoich yng ngogledd-orllewin Ucheldir yr Alban; cyfeiriad grid NG936131. Ceir carnedd fechan ar y copa. Y fam-fynydd yw Aonach air Chrith. Mae'n un o'r ychydig fynyddoedd hynny yn Ucheldir yr Alban ble mae'r enw brodorol (Gaeleg) wedi mynd yn anghof hyd yn oed i'r brodorion. Mae'r mynydd yn edrych fel cyfrwy o Glen Shiel, a roddodd ei enw saesneg iddo. Mae wedi'i leoli rhwng siroedd Inverness-shire, Ross a Cromarty.
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Alban |
Uwch y môr | 1,010 metr, 1,011.4 metr |
Cyfesurynnau | 57.162395°N 5.414721°W |
Cod OS | NG9361413113 |
Amlygrwydd | 334 metr |
Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro, Murdo a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Ailfesurwyd uchder y copa hwn ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2009.
O faes y gad Brwydr Glenshiel, gellir gweld un o'r golygfeydd godidocaf yr Alban, gyda'r Ucheldir yn ei gogoniant.
Ail Gopa
golyguCeir dau gopa i'r mynydd hwn, a'r ddau yr un uchder; er mwyn gwahaniaethu ceir triongl OS ar un o'r copaon, sef yr un gorllewinol. Cyfesurynnau grid os copa hwn ydy NG934130.