Actor o Loegr yw Charlie Thomas Cox[1] (ganed 15 Rhagfyr 1982). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rolau fel Tristan Thorn yn Stardust, Owen Sleater yn yr ail a thrydedd gyfres o raglen HBO Boardwalk Empire, Jonathan Jones yn y ffilm fywgraffyddol The Theory of Everything a Matt Murdock/Daredevil yng nghyfres deledu Marvel Daredevil.

Charlie Cox
GanwydCharles Thomas Cox Edit this on Wikidata
15 Rhagfyr 1982, 1982 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Sherborne
  • Ysgol Theatr Old Vic, Bryste
  • Ashdown House School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu Edit this on Wikidata
TadAndrew Frederick Seaforth Cox Edit this on Wikidata
MamTricia Harley Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.unitedagents.co.uk/charlie-cox Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Cox, yr ieuengaf o bump o blant, yn Llundain, Lloegr, a fe'i fagwyd yn Nwyrain Sussex. Mae'n fab i Patricia C. A. "Tricia" (yn gynt Harley) a Andrew Frederick Seaforth Cox, sy'n gweithio fel cyhoeddwr.[2][3][4] Mae ganddo un brawd, Toby, a thri hanner-frawd a chwaer o briodas cyntaf ei dad.[4] Gallai ei hynafiaid ar ochr ei dad gynnwys 6ed Iarll Lauderdale, Syr Andrew Agnew, 7fed Barwnig, capten y Llynges Frenhinol Frederick Lewis Maitland, James Ogilvy, 4ydd Iarll Findlater, Syr David Carnegie, 4ydd Barwnig, a'r Llywodraethwr Trefedigaethol Efrog Newydd, Andrew Elliot yn ôl arolygon urddolaeth achyddol.[4]

Magwyd Cox fel Pabydd[5][6] a fe'i addysgwyd mewn dwy ysgol annibynnol: Ysgol Ashdown House ym mhentref Forest Row yn Nwyrain Sussex ac Ysgol Sherborne yn nhref farchnad Sherborne yn Dorset. Fe'i hyfforddwyd wedyn yn Ysgol Theatr yr Old Vic ym Mryste.

Chwaraeodd Cox rôl Tristan Thorn yn y ffilm 2007 Stardust. Fe'i welwyd nesaf yn ffilm 2008 Stone of Destiny yn chwarae Ian Hamilton. Gwnaeth ei ddebut ar y West End The Collection Harold Pinter yn Theatr yr Ambassadors yn Llundain, ac yn yr un flwyddyn chwaraeodd y Dug Crowborough ym mhennod beilot y gyfres ddrama ITV Downton Abbey. Ymddangosodd hefyn yn The Prince of Homburg Kleist, yn chwarae'r rôl deitl, yn y Donmar Warehouse yn Llundain yn 2010. Chwaraeodd y rhan St. Josemaría Escrivá yn ffilm 2011 Roland Joffé There Be Dragons. Hefyd yn 2011, arwyddodd Cox gytundeb i chwarae rôl gylchol yn yr ail gyfres o'r rhaglen HBO Boardwalk Empire a gyfarwyddwyd gan Martin Scorsese. Serennodd fel mewnfudwr Gwyddelig sydd gan gysylltiadau gyda'r IRA.[7][8] Daeth ei gymeriad yn brif seren y rhaglen ar gyfer ei thrydedd gyfres, a ddarlledwyd ym mis Medi 2012.

Yn 2014, serennodd yn y ffilm ddrama fywgraffyddol, sy'n adrodd hanes bywyd Stephen Hawking, The Theory of Everything fel Jonathan Jones.[9] Mae Jonathan, gŵr gweddw sy'n arwain côr yr eglwys, yn dod yn ffrind agos i wraig Hawking, Jane, a'r teulu cyfan, ar ôl iddi ymuno â'i gôr. Cefnoga'r cymeriad Jane, yn helpu Stephen gyda'i afiechyd ac yn chwarae gyda'r plant. Prioda Jane a Jonathan ar ôl i Stephen a hithau benderfynu dod â'i priodas hwy i ben.

Ar hyn o bryd, chwaraea Cox Matt Murdock/Daredevil yng nghyfres deledu Marvel Daredevil, a gyfarwyddwyd a rhyddhawyd trwy Netflix.[10] Canmolwyd ei berfformiad a fe'i dderbyniwyd Gwobr Gyflawni Helen Keller ar gyfer ei rôl gan Sefydliad y Deillion America.[11]

Ffilmyddiaeth

golygu

Ffilmiau

golygu
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2003 dot the i Theo
2004 The Merchant of Venice Lorenzo
2005 Things to Do Before You're 30 Danny
2005 Casanova Giovanni Bruni
2006 A for Andromeda Dennis Bridger Ffilm deledu
2006 The Maidens' Conspiracy Diafebus
2007 Stardust Tristan Thorn
2008 Harry, Henry and the Prostitute Harry Ffilm fer
2008 Stone of Destiny Ian Hamilton
2009 Big Guy Chuck Ffilm fer
2009 Perfect Paul Ffilm fer
2009 Glorious 39 Lawrence
2011 There Be Dragons Josemaría Escrivá
2011 Nancy, Sid and Sergio Sergio Ffilm fer
2012 A Sunny Morning Adam Ffilm fer
2013 Hello Carter Carter
2013 Legacy Charles Thoroughgood Ffilm deledu
2014 The Theory of Everything Jonathan Hellyer Jones

Teledu

golygu
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2002 Judge John Deed Young Vicar Pennod: "Everyone's Child"
2006 Lewis Danny Griffon Peilot
2010 Downton Abbey Dug Crowborough Pennod "1.1"
2011 Moby Dick Ishmael 2 bennod
2011–2012 Boardwalk Empire Owen Sleater 20 pennod
2013 The Ordained Tom Reilly Peilot
2015–presennol Daredevil Matt Murdock / Daredevil 26 o benodau

Llwyfan

golygu
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2005 'Tis Pity She's a Whore Giovanni Southwark Playhouse
2008 The Collection Bill Theatr yr Ambassadors
2010 The Prince of Homburg Tywysog Homburg Donmar Warehouse

Gwobrau ac enwebiadau

golygu
Blwyddyn Gwobr Categori Derbynnydd Canlyniad
2015 Gwobr Gyflawni Helen Keller Honoree Charlie Cox Enillodd

Cyfeiriadau

golygu
  1. Births, Marriages & Deaths Index of England & Wales, 1916–2005.; at ancestry.com
  2. "Charlie Cox: Star turn". The Independent. 29 Ionawr 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-05. Cyrchwyd 2016-01-02.
  3. Hardy, Rebecca (11 Hydref 2007). "Fantasy movie sprinkles unknown actor in Stardust". Daily Mail. Cyrchwyd 12 Hydref 2007.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Charlie Cox". The Peerage. thepeerage.com. Cyrchwyd 27 Ionawr 2015.
  5. "British actors line up for film about life of Opus Dei founder". Catholic Online. 4 Medi 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-28. Cyrchwyd 27 Ionawr 2015. St Josemaria is played by the English actor Charlie Cox, who is a Catholic. "I've been brought up a Catholic." Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Interview: Charlie Cox". Busted Halo.
  7. Shaw, Marty (1 Chwefror 2011). "Charlie Cox Joins The Boardwalk Empire". BSC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-02-17. Cyrchwyd 27 Ionawr 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. Andreeva, Nellie (31 Ionawr 2011). "TV Castings: Teri Polo, Darrell Hammond book pilots, Boardwalk adds a Recurring". Deadline.com. Cyrchwyd 16 Chwefror 2011.
  9. "The Theory of Everything begins principal photography". Working Title Films. 8 Hydref, 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-06. Cyrchwyd 8 Hydref, 2013. Check date values in: |accessdate=, |date= (help)
  10. "Charlie Cox to Star in 'Daredevil' TV Series for Marvel and Netflix". Variety. 27 Mai 2014. Cyrchwyd 27 Mai 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  11. "Helen Keller Achievement Awards 2015". American Foundation for the Blind. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-07. Cyrchwyd 20 Mehefin 2015.