Nofel gan Anthony Trollope yw The Three Clerks (1857), wedi'i gosod yn rhannau isaf y Gwasanaeth Sifil.

The Three Clerks
Wynebddalen yr argraffiad cyntaf
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurAnthony Trollope
CyhoeddwrRichard Bentley Edit this on Wikidata
GwladDeyrnas Unedig
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi1857 Edit this on Wikidata
GenreFfuglen, Nofel
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLlundain Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Mae'r nofel yn tynnu ar brofiadau Trollope ei hun fel clerc iau yn y Swyddfa Bost Gyffredinol. Mae'n cael ei hystyried fel y mwyaf hunangofiannol o nofelau Trollope.[1] Ym 1883 dywedodd Trollope ei fod yn ystyried The Three Clerks fel nofel well nag unrhyw un o'i rai cynharach, gan gynnwys The Warden a Barchester Towers.[2]

Cymeriadau

golygu
  • Mrs. Linda Norman
  • Undecimus Scott AS (“Undy”)
  • Alaric Tudor
  • Charley Tudor
  • Mrs Gertrude Tudor
  • Katie Woodward
  • Mrs Bessie Woodward
  • Mr Chaffanbrass
  • Norah Geraghty
  • Syr Gregory Hardlines
  • Mrs. Clementina Jaquetanape
  • Henry Norman
  • Capt. Valentine Scott
  • Mrs Valentine Scott
  • Verax Corkscrew
  • Capt. Bartholomew Cuttwater, (“uncle Bat”)
  • Mrs Davis
  • Delabarbe De L’empereur,
  • Y Parch. Mr Everscreech,
  • Yr Arglwydd Gaberlunzie
  • Mr Gitemthruet
  • Victoire Jaquentanpe
  • Y parch. Mr Jobbles,
  • Mr M’buffer
  • Jabesh M’ruen
  • Mr Manylodes
  • Ugolina Neverbend
  • Fidus Neverbend
  • Lactime Neverbend
  • Bill Nokes
  • Cuthbert Norman

Crynodeb

golygu

Mae'r plot yn ymwneud â thri gwas sifil, Henry Norman a'r cefndryd Alaric a Charley Tudor. Maent yn ymwneud â thair merch i wraig weddw offeiriad, Mrs Woodward. Mae Henry sy'n swil a thawedog, yr hynaf o'r tri ffrind, yn cwympo mewn cariad â'r ferch hynaf, Gertrude, ond mae'n gwrthod ei gariad ac yn priodi Alaric Tudor. Mae hwn yn ddewis ychydig yn anffodus. Mae Alaric yn cael ei ddyrchafu'n Gomisiynydd, ac yn dod o dan ddylanwad aelod seneddol diegwyddor, Undy Scott. Mae Scott yn ei berswadio i gymryd rhan mewn amryw o gynlluniau o gyfreithlondeb a moesoldeb amheus. Mae'r cynlluniau yn arwain at Aleric cael ei roi ar brawf a'i garcharu am dwyll. Fodd bynnag, mae Gertrude yn sefyll wrth ei ymyl, ac mae'r cwpl yn ymfudo gyda'u dau fab i Awstralia pan fydd ei ddedfryd chwe mis ar ben. Yn y cyfamser, mae'r Henry yn dod dros ei wrthodiad gan Gertrude ac yn canfod gwir hapusrwydd gyda'r ail ferch Linda Woodward Mae Charley Tudor yn cael ei ystyried yn ddyn ofer, sy'n treulio'i amser yn nhafarndai a phalasau gin Llundain. Mae wedi ei dyweddïo â morwyn tafarn Gwyddelig Fodd bynnag, mae'n breuddwydio am fywyd gwell, ac wrth ei fodd â Katie, y chwaer ieuengaf, sy'n cwympo mewn cariad â Charley ar ôl iddo ei hachub rhag boddi yn afon Tafwys. Wedi trychineb Alaric mae'n sylweddoli perygl ei fywyd afradlon, i raddau helaeth trwy ddylanwad Katie Woodward, mae'n callio, sicrhau gwell sefyllfa cyflogaeth, a phan wellodd Katie o salwch a oedd yn ymddangos yn farwol, yn ei phriodi.[3][4]

Erbyn diwedd y llyfr mae'r tri gŵr a'r tair gwraig yn byw bywydau dedwydd.[5]

Cyfansoddi

golygu

Ysgrifennodd Trollope The Three Clerks rhwng 15 Chwefror 1857 a 18 Awst 1857, yn bennaf wrth gymudo i'r gwaith a chartref ar y trên. Fe'i cyhoeddwyd mewn tair cyfrol gan Richard Bentley ym mis Rhagfyr 1857, er bod dyddiad 1858 ar dudalen deitl yr argraffiad cyntaf.[1][2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Hall, Jack. "The Three Clerks: An Introduction". The Victorian Web
  2. 2.0 2.1 Terry, Reginald Charles (1999). Oxford reader's companion to Trollope. Oxford: Oxford University Press. ISBN 0-19-866210-6. OCLC 41388736.
  3. Copi o'r Llyfr ar Internet Archive
  4. Smalley, Donald (1995). Anthony Trollope : the critical heritage. London: Routledge. ISBN 0-415-13460-9. OCLC 34076316.
  5. The Three Clerks ar wefan The Trollope Society adalwyd 30 Tachwedd 2019