The Wire
Rhaglen deledu ddrama a leolir yn Baltimore, Maryland, UDA, yw The Wire. Crewyd, cynhyrchwyd ac ysgrifennwyd y gyfres yn bennaf gan yr awdur a chyn-ohebydd heddlu David Simon, a darlledwyd gan y rhwydwaith cebl HBO yn yr Unol Daleithiau. Darlledwyd y bennod gyntaf ar 2 Mehefin, 2002 a'r olaf ar 9 Mawrth, 2008, gyda thros 60 o benodau mewn pum cyfres y rhaglen.
The Wire | |
---|---|
Genre | Drama drosedd Cyfres ddrama |
Crewyd gan | David Simon |
Yn serennu |
|
Cyfansoddwr thema | Tom Waits |
Thema agoriadol | "Way Down in the Hole" Cyfres 1: The Blind Boys of Alabama Cyfres 2: Tom Waits Cyfres 3: The Neville Brothers Cyfres 4: DoMaJe Cyfres 5: Steve Earle |
Thema gloi | "The Fall" gan Blake Leyh |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Nifer o dymhorau | 5 |
Nifer o benodau | 60 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd/wyr gweithredol | David Simon Robert F. Colesberry (Cyfresi 1–3) Nina Kostroff Noble (Cyfresi 3–5) |
Cynhyrchydd/wyr |
|
Lleoliad(au) | Baltimore, Maryland |
Gosodiad camera | Un-camera |
Hyd y rhaglen | 55–60 munud 93 minutes (diweddglo) |
Cwmni cynhyrchu | Blown Deadline Productions HBO Television |
Rhyddhau | |
Rhwydwaith gwreiddiol | HBO |
Fformat y llun | 480i 4:3 |
Fformat y sain | Dolby Digital 5.1 |
Darlledwyd yn wreiddiol | Mehefin 2, 2002 | – Mawrth 9, 2008
Dolennau allanol | |
Gwefan |
Mae pob cyfres o The Wire yn canolbwyntio ar wahanol agwedd o ddinas Baltimore, yn eu trefn: y fasnach gyffuriau, y porthladd, llywodraeth a biwrocratiaeth y ddinas, y system ysgolion, a chyfryngau newyddion y wasg. Mae cast eang y rhaglen yn cynnwys actorion cymeriadau yn bennaf sydd ddim yn enwog iawn am eu rhannau eraill. Dywedodd Simon er gwaethaf ei gyflwyniad fel drama drosedd, mae'r rhaglen "yn wir amdano'r ddinas Americanaidd, a sut yr ydym yn byw gyda'n gilydd. Mae'n amdano sut mae gan sefydliadau effaith ar unigolion, a sut, pe bai eich bod yn blismon, yn ddociwr, yn ddeliwr cyffuriau, yn wleidydd, yn farnwr neu'n gyfreithiwr, yn y bôn rydych dan fygythiad ac mae'n rhaid ichi brwydro yn erbyn pa bynnag sefydliad rydych wedi ymrwymo'ch hunan ato."[1]
Er na welwyd The Wire llwyddiant masnachol sylweddol nac ychwaith unrhyw o'r prif wobrau teledu,[2] disgrifwyd y rhaglen yn aml gan feirniaid fel y gyfres deledu orau erioed.[3][4][5][6][7][8] Cydnabyddir y rhaglen am ei phortread realistig o fywyd trefol, ei huchelgeisiau artistig, a'i harchwiliad o themâu cymdeithasol-wleidyddol.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ David Simon. (2005). Trac sylwebaeth "The Target". [DVD]. HBO.
- ↑ (Saesneg) David Simon (2004). Ask The Wire: David Simon. HBO.
- ↑ (Saesneg) Traister, Rebbeca (15 Medi 2007). The best TV show of all time. Salon.com.
- ↑ (Saesneg) Wire, The Season 4. MetaCritic.
- ↑ (Saesneg) Wire, The Season 5. MetaCritic.
- ↑ (Saesneg) The Wire: arguably the greatest television programme ever made. The Daily Telegraph (2 Ebrill 2009).
- ↑ (Saesneg) The Wire is unmissible television. The Guardian (21 Gorffennaf 2007).
- ↑ (Saesneg) A show of honesty. The Guardian (13 Chwefror 2007).