Theatr Ieuenctid Môn

Sefydlwyd Theatr Ieuenctid Môn yn y flwyddyn 2000 yn Llangefni, Ynys Mon.

Cefndir

golygu

Mae Theatr Ieuenctid Môn wedi llwyddo i annog diddordeb plant a phobl ifanc Ynys Môn mewn sawl agwedd o fyd theatr ers ei sefydlu yn y flwyddyn 2000. Cynhelir gweithdai wythnosol dan ar einiad actorion profiadol.

Nod T.I.M (Theatr Ieuenctid Môn) yw cyflwyno pob agwedd o theatr a drama, gydag amser yn datblygu a meithrin hunan hyder pob unigolyn sy’n arf hanfodol yn y byd tu allan. Gosodir pwyslais ar ddatblygiad personol a chymdeithasol plant a phobl ifanc, sydd yn ei dro yn gallu helpu i feithrin gwell hunan-hyder, hunan-ddelwedd, a hunan-barch.

Mae strwythur T.I.M yn galluogi buddiolwyr i weithio drwy’r ddarpariaeth o wersi wythnosol, i ddosbarthiadau a sesiynau arbenigol ac yn gallu arwyddbostio tuag at gyfleoedd castio ar gyfer gwaith teledu, theatr, ffilm a radio.

Mae’r gweithdai yn rhoi cyfle i'r aelodau fynegi eu hunain mewn awyrgylch diragfarn mewn naws hamddenol a chyfeillgar.[1]

Mae actorion fel Sion Trystan Roberts (Porc Peis Bach) a Gwenno Glynn (Tipyn o Stad) wedi bod yn aelodau o'r theatr.

Mae'r gweithdai blaenorol wedi arwain at amrywiaeth o berfformiadau. O sioeau traddodiadol megis Branwen (2002) (sioe gerdd cyntaf y theatr) a Chwalfa, i gyflwyniadau theatr mewn addysg – Diogelwch ar y Ffyrdd, darlleniadau cyhoeddus, perfformiadau theatr promenâd, a chynyrchiadau gwreiddiol megis #CLIC a Stop Tap (2005).

Mae’r gweithdai hefyd yn cynnig cyfleoedd lluosog tu allan i sesiynau wythnosol gyda chyfleodd ym myd radio a theledu.

Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol i ymuno â sesiynau T.I.M.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Cymraeg) Menter Môn Cyf. Gwefan swyddogol. Menter Môn. Adalwyd ar 06 Ebrill 2012.

Gweler hefyd

golygu