Ynni Môr Morlais

Sefydlwyd Ynni Môr Morlais gan Menter Môn yn dilyn ei phenodiad fel y Rheolwr ar gyfer Parth Arddangos Gorllewin Ynys Môn gan Ystâd y Goron.

Ynni Môr Morlais

Cefndir golygu

Mae Menter Môn yn fenter gymdeithasol sydd yn darparu prosiectau ledled Gogledd Cymru mewn amryw o sectorau. Yr ysgogiad ar gyfer ymgeisio i fod yn Rheolwr Trydydd Parti oedd sefydlu Ynys Môn fel canolbwynt ynni môr ac i ychwanegu cymaint o werth â phosib at yr economi leol.

Mae Parth Arddangos Gorllewin Ynys Môn yn un o nifer yn y Deyrnas Unedig ar gytundeb les gan Ystâd y Goron fel ymgais i annog a sbarduno datblygiad mewn technoleg. Adnabuwyd pob un o’r parthau yn sgil eu gallu posib i gynnig ynni tonnau a llanw a’u mynediad at y seilwaith angenrheidiol, sy’n cynnwys porthladdoedd a’r grid cenedlaethol. Yn fwy na dim, dewiswyd Ynys Môn am ei hadnodd llanw.

Fel Rheolwr Trydydd Parti bydd Menter Môn yn rheoli ac yn isosod mannau o fewn y parthau ar gyfer profi ac arddangos ynghyd â rhai o’r prosiectau masnachol graddfa aráe cyntaf. Bydd y fenter hefyd yn ceisio ychwanegu gwerth at y parth drwy gynnal gweithgareddau a ganiateir a sicrhau cysylltiad â’r grid er mwyn cefnogi prosiectau is denant ymhellach. Ble bynnag y gelli'r fenter hefyd ceisio datblygu a defnyddio cadwyni cyflenwi lleol.

Mae cam cydsyniad a datblygiad y prosiect gwerth £ 5.6 miliwn wedi cael ei gefnogi gan £ 4.2 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Ynni môr yng ngogledd Cymru golygu

Mae Parth Arddangos Gorllewin Ynys Môn yn ardal a adnabuwyd gan Ystâd y Goron fel lle sy’n addas ar gyfer gosod peirianwaith ynni môr yn y tymor byr a chanolig. Mae adnodd o lif cerrynt da yn perthyn i’r Parth ynghyd â system o donnau cymharol isel. Mae’r Parth yn ardal o 37km2 gyda’r rhan helaeth ohono wedi ei leoli o amgylch pentir Ynys Cybi. Y nodwedd ddaearyddol hon sydd y creu cynnydd yn llif y môr yn yr ardal hon. Bydd y llif yn amrywio ar draws y safle gyda lefelau uwch i’w disgwyl yn agos at drwyn Gogledd Orllewinol Ynys Cybi.

Budd Lleol golygu

Prif ysgogiad Menter Môn i weithredu fel Rheolwr Trydydd Parti ar gyfer Parth Arddangos Gorllewin Ynys Môn yw sicrhau’r budd uchaf posib i economi Ynys Môn. Bydd y prosiect yn cynnwys datblygu’r parth i fedru ymgorffori datblygwyr technoleg forol yn ogystal â chynnal eu hanghenion unwaith y byddant wedi eu lleoli ar Ynys Môn. Bydd y ddwy elfen angen ystod eang o wasanaethau a sgiliau a geir yn lleol os bydd hi’n bosib ac yn ymarferol gwneud hynny. Rhoddir enghreifftiau o’r rhain isod ond dylid nodi nad yw’r rhestr hon yn un gyflawn.[1]

• Caniatáu a Chytuno

• Llogi Cychod

• Monitro Amgylcheddol a Geo-dechnegol

• Ymgynghoriaeth Gweithrediadau Môr

• Saernïo a Gwaith Gosod Terfynol

• Gorsaf Pod Danforol

• Gosod Ceblau

• Gosod Systemau Telegyfathrebu i’r Orsaf ar y Lan

• Gweithredu a Chynnal

• Cyfleusterau Porthladd

• Swyddfeydd

• Llety

• Hyfforddiant

Mae Menter Môn wedi darparu gwasanaethau cymorth i fusnesau ers bron i 20 mlynedd ac felly’n gymwys iawn i adnabod a datblygu cadwyni cyflenwi. Bydd hefyd yn cyfrannu at y nod ehangach o ddatblygu’r Ynys fel canolbwynt o ynni adnewyddadwy sy’n cynnig cyfleoedd i greu gweithlu medrus iawn, sef pobl a fyddai’n gadael yr ynys fel arall. Bydd y fenter yn ceisio gweithio’n agos iawn ag Ynys Ynni a Chyngor Sir Ynys Môn i gyflawni hyn.

Cyflwyniad i Ynni Llanw golygu

Math o ynni hydro yw ynni llanw sy’n trosi ynni o’r llanw i fathau defnyddiol o bwer, sef trydan yn bennaf.

Er nad yw’n gyffredin iawn, mae gan ynni llanw y gallu i greu trydan i’r dyfodol. Mae’r llanw yn fwy dibynadwy nag ynni gwynt a phwer solar. Ymysg y ffynonellau o ynni adnewyddadwy, mae ynni llanw wedi dioddef costau cymharol uchel a phrinder safleoedd addas ar gael sydd ag amrediadau sylweddol o lanw neu amrediad o gyflymder llif, gan felly gyfyngu ar ei ddefnydd. Serch hynny, dengys amryw o ddatblygiadau a gwelliannau technolegol diweddar, o ran dyluniad a thechnoleg dyrbin, y gall holl argaeledd pwer llanw fod yn llawer iawn uwch na ragwelwyd yn flaenorol, a gellir lleihau’r costau economaidd ac amgylcheddol i fod yn rhai cystadleuol.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Morlais (http://morlaisenergy.com/cy/ Archifwyd 2017-08-08 yn y Peiriant Wayback.)