Damcaniaeth Brønsted-Lowry

(Ailgyfeiriad o Theori Bronsted-Lowry)

Mewn Cemeg, damcaniaeth - a luniwyd gan Johannes Nicolaus Brønsted a Thomas Martin Lowry yn 1923[1][2] - yw Damcaniaeth Brønsted-Lowry, sy'n diffinio asid fel moleciwl neu ïon a all ryddhau neu "gyfrannu" proton. Mae hefyd yn diffinio beth yw bas sef yr hwn sy'n cymryd neu "dderbyn" ion o hydrogen (y proton). Os yw cyfansoddyn i weithredu fel asid, gan gyfrannu proton, yna mae'n rhaid bod bas yno i dderbyn y proton. Mae Damcaniaeth Brønsted–Lowry, felly, yn cael ei ddiffinio gan yr adwaith ganlynol:

Dŵr fel asid a bâs. Mae un cyfansoddyn o H2O yn gweithredu fel bâs ac yn ychwanegu H+ gan greu H3O+; mae'r H2O arall yn gweithredu fel asid ac yn colli H+ gan droi'n OH-.

asid + bas ⇌ asid ymgyfunol + bas ymgyfunol

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. R.H. Petrucci, W.S. Harwood, a F.G. Herring, General Chemistry (8fed argraffiad, Prentice-Hall 2002), t. 666
  2. G.L. Miessler a D.A. Tarr, Inorganic Chemistry (2il argraffiad, Prentice-Hall 1998), t.154