Thomas Benbow Phillips
Thomas Benbow Phillips (14 Chwefror 1829 – 30 Ionawr 1915) oedd arloeswr y wladfa Gymreig a sefydlwyd yn Rio Grande do Sul, Brasil, yn y 1850au. Yn ddiweddarach daeth yn ffigwr pwysig yn y Wladfa ym Mhatagonia.
Thomas Benbow Phillips | |
---|---|
Ganwyd | 14 Chwefror 1829 Manceinion |
Bu farw | 30 Ionawr 1915 |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Ganed ef yn Nhregaron yn 1829. Aeth i Fanceinion yn 1848, ac yno daeth i gysylltiad a masnachwyr oedd yn awyddus i yrru ymfudwyr i Frasil i dyfu cotwm ar gyfer eu melinau cotwm. Aeth Phillips draw i Frasil i wneud y trefniadau, ac erbyn diwedd Mai 1851 roedd chwe mintai o ymfudwyr wedi cyrraedd yno, er nad oedd y nifer o ymfudwyr yn fawr. Ymhen dwy flynedd roedd tua chant o Gymry yno.
Erbyn diwedd 1854, roedd y rhan fwyaf o'r sefydlwyr wedi gwasgaru; yn ôl Phillips, yn bennaf oherwydd i lawer ohonynt, oedd yn gyn-lowyr, symud i weithio i weithfeydd glo ym Mrasil. Arhosodd Phillips ym Mrasil, gan briodi Maria Januaria Florinal yn 1855. Wedi iddi hi farw, symudodd Phillips i'r Wladfa ym Mhatagonia yn 1872, a bu farw yno yn 1915.
Llyfryddiaeth
golygu- R. Bryn Williams Y Wladfa (Gwasg Prifysgol Cymru, 1962)