Bardd a llyswr o Loegr] oedd Thomas Carew (159522 Mawrth 1640) sy'n nodedig fel un o'r Cafaliriaid a flodeuai ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn hanner cyntaf yr 17g.

Thomas Carew
Ganwyd1594 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mawrth 1640 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, llenor Edit this on Wikidata
TadMatthew Carew Edit this on Wikidata

Ganwyd yn West Wickham, Caint, a chafodd ei addysg yng Ngholeg Merton, Rhydychen ac yn y Deml Ganol, un o Ysbytai'r Frawdlys. Aeth i'r cyfandir i weithio'n ysgrifennydd mewn llysgenadaethau Lloegr yn Fenis, yr Hâg, a Pharis. Dychwelodd i Loegr yn 1630 i fod yn was at ford y Brenin Siarl I. Roedd yn gyfaill i Ben Jonson a John Donne, a gwelir dylanwad y ddau lenor hwnnw ar farddoniaeth Carew.[1]

Fe'i ystyrir yn y cyntaf o'r beirdd Cafaliraidd, er iddo farw yn Llundain yn 1640, cyn i Ryfeloedd Cartref Lloegr rhwng y Brenhinwyr a'r Seneddwyr gychwyn o ddifrif. Yn ogystal â'i farddoniaeth serch llys sy'n nodweddiadol o'r traddodiad Cafaliraidd, gwelir dylanwad y Metaffisegwyr, yn bennaf Donne, yn ei waith a hefyd Eidalwyr megis Giambattista Marino. Ei gwaith hiraf ydy'r gerdd erotig "Rapture". Ysgrifennodd hefyd fasc o'r enw Coelum Britannicum a berfformiwyd yn 1634, gyda cherddoriaeth gan Henry Lawes.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Thomas Carew. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2019.

Darllen pellach

golygu
  • Edward I. Selig, The Flourishing Wreath: A Study of Thomas Carew's Poetry (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 1958).