Thomas Carrington
Cerddor, argraffydd a chyhoeddwr o Gymro oedd Thomas Carrington ("Tom" neu "Pencerdd Gwynfryn") (24 Tachwedd 1881 – 6 Mai 1961). Ganwyd yn y Gwynfryn, Bwlch-gwyn, ger Wrecsam, sir Ddinbych. Roedd ei dad John Carrington yn hanu o Gernyw, sef aelod o un o'r teuluoedd a ymfudasant i'r Mwynglawdd, sir Ddinbych tua dechrau canrif 19, a'i fam Winifred (g. Roberts), yn frodorion Bryneglwys. Magwyd Carrington yn y Gwynfryn, ac wedi derbyn ei addysg yn ysgol Bwlch-gwyn, cafodd brentisiaeth i fod yn argraffydd yn Wrecsam gyda chwmni Hughes a'i Fab. Yn ystod y cyfnod hwn fe gyfarfu a Mildred Mary Jones, Minera, ac wedi iddynt briodi, symudodd y ddau i Goed-poeth i fyw. Daliodd ati gyda'i yrfa galwedigaeth fel argraffydd a chyhoeddwr cerddoriaeth.[1]
Thomas Carrington | |
---|---|
Ffugenw | Pencerdd Gwynfryn |
Ganwyd | 24 Tachwedd 1881 Gwynfryn |
Bu farw | 6 Mai 1961 Coedpoeth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor, argraffydd |
Datblygodd ei ddawn neilltuol mewn cerddoriaeth yn ifanc iawn, ac yn naw oed fe'i penodwyd yn organydd yn y Gwynfryn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Astudiai gerddoriaeth yn ei amser hamdden trwy ddull nodiant y tonic sol-ffa a chyfarwyddyd Morton Bailey yn Wrecsam. Ar ól 15 mlynedd gyda'r Methodistiaid, treuliodd dros hanner canrif yn organydd yn eglwys Rehoboth (EF), Coed-poeth, a chyfranodd yn helaeth at waith yr eisteddfod fel beirniad, arweinydd a chyfansoddwr. Roedd yn olygydd cerdd Y Winllan a'r Eurgrawn yn ogystal ag ysgrifennydd pwyllgor y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd (1929) yng ngofal cynnwys cerddorol Llyfrau Emynau a Thonau. Bu'n ysgrifennydd cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1933, ac mae'n adnabyddus yn bennaf oll am y gweithiau cerddorol Concwest Calfari (anthem SATB 1912), Hen Weddi Deuluaidd Fy Nhad (unawd contalto/bariton 1910) a Gwynfryn a Brynd-du (tonau cynulleidfaol). Mae llawlyfr Yr Ysgol Gán gan Gee (1957) a Doniau Da (1955) yn cynnwys nifer o'i donau neu ganiadau gwreiddiol, ynghyd á rhai trefniadau eraill o emyn-donau.
Bu farw Carrington ar 6 Mai 1961 yn ei gartref, ac fe'i coffeir yn eglwys Rehoboth, Coed-poeth ar lechen a ddadorchuddiwyd yn 1963.
Ffynonellau
golygu- Who's who in Wales (1937);
- Y Cymro, 29 Hyd. 1959, 18 Mai 1961 a 31 Hyd. 1963;
- Yr Eurgrawn Wesleyaidd, Dolgellau, Awst 1961.