Cylchgrawn y Wesleyaid Cymraeg ar gyfer plant oedd Y Winllan. Fe'i cyhoeddid o 1848 hyd 1965.

Y Winllan
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn, cylchgrawn Edit this on Wikidata
Rhan oCylchgronau Cymru Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1848 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiLlanidloes Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Gwinllan.
Clawr Rhifyn Rhagfyr 1948

Hyd 1960 ymddangosodd y cylchgrawn yn fisol. Ar ôl hynny cafodd ei gyhoeddi yn ddeufisol hyd ei uno â chylchgronau crefyddol eraill yn y Gymraeg ar gyfer plant yn 1965 dan y teitl Antur.

Y golygydd cyntaf oedd Dr Thomas Jones, a ddewisodd yr enw. Yn yr 1870au John Evans (Eglwysbach) oedd wrth y llyw. Y llenor a gweinidog Edward Tegla Davies oedd y golygydd o 1920 i 1928.

Dros y blynyddoedd cyhoeddwyd gwaith sawl llenor yn Y Winllan yn cynnwys Edward Tegla Davies (Nedw, Y Doctor Bach, Rhys Llwyd Y Lleuad, Hen Ffrindiau, Stori Sam a Hunangofiant Tomi fel cyfresi cyn eu cyhoeddi yn llyfrau) a Kate Roberts (Deian a Loli a Laura Jones).

Cyfeiriadau golygu

  • Eric Edwards, Yr Eglwys Fethodistaidd, Hanes Ystadegol (Gwasg Gomer, 1980)