Thomas Christopher Evans
hynafiaethydd, hanesydd lleol, a chasglydd llên gwerin
Hynafiaethydd o Gymru oedd Thomas Christopher Evans (28 Rhagfyr 1846 – 24 Gorffennaf 1918), a adnabyddir hefyd wrth ei lysenw "Cadrawd". Ei brif ddiddordebau oedd hanes Morgannwg a llên gwerin Cymru. Roedd y nofelydd Saesneg Frederic Evans ("Michael Gareth Smith") yn fab iddo.[1]
Thomas Christopher Evans | |
---|---|
Ganwyd | 28 Rhagfyr 1846 Llangynwyd |
Bu farw | 24 Gorffennaf 1918 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hynafiaethydd, arbenigwr mewn llên gwerin |
Fe'i ganed ym mhlwyf Llangynwyd, Morgannwg. Gof ydoedd wrth ei alwedigaeth. Cyfrannai'n gyson i gylchgronau Cymraeg fel Cyfaill yr Aelwyd a Cymru. Ysgrifennai erthyglau ar hanes Morgannwg i bapurau Saesneg Caerdydd. Cyd-olygodd y gyfrol Hen Gwndidau. Ei brif waith yw ei lyfr Saesneg ar hanes plwyf Llangynwyd, a gyhoeddwyd yn 1887.[1]
Llyfryddiaeth
golyguGwaith Cadrawd
golygu- The History of the Parish of Llangynwyd (1887)
- Gol. gyda L. J. Hopkin Jones, Hen Gwndidau (1910)
- Gol., Iolo Morganwg (Cyfres y Fil, 1913)
Astudiaethau
golygu- Brynley F. Roberts, Darlith Goffa Henry Lewis: Cadrawd - Arloeswr Llên Gwerin (Prifysgol Cymru, Abertawe, Mawrth 1997)