T. Glynne Davies
Roedd Thomas Glynne Davies (12 Ionawr 1926 – 10 Ebrill 1988), a adnabyddir fel arfer fel T. Glynne Davies, yn fardd, llenor ac yn ddarlledwr radio a theledu. Ganwyd yn 64 Stryd Dinbych, Llanrwst, Sir Ddinbych.
T. Glynne Davies | |
---|---|
Ganwyd | Thomas Glynne Davies ![]() 12 Ionawr 1926 ![]() Llanrwst ![]() |
Bu farw | 10 Ebrill 1988 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, darlledwr ![]() |
Cyflogwr | |
Plant | Gareth Glyn, Geraint Glynne Davies, Aled Glynne ![]() |
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gweithiodd ym mhwll glo Oakdale, Caerffili fel 'Bevin Boy'.
Gweithiodd fel gohebydd newyddion ar gyfer BBC Radio o 1957 a cyflwynodd y rhaglen radio poblogaidd radio programme Bore Da rhwng 1970 a 1976.
Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1951 gyda'r gerdd 'Adfeilion' a chyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi, sef Llwybrau Pridd a Hedydd yn yr Haul. Ysgrifennodd y nofel hirfaith Marged, sy'n portreadu bywyd yn Llanrwst dros sawl cenhedlaeth, nofel arall sef Haf Creulon a chyfrol o straeon byrion Cân Serch.
Bob blwyddyn mae S4C yn cynnig Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T.Glynne Davies, sydd werth £6,500, i gynorthwyo ysgolheigion i ddilyn cwrs ôl-raddedig yn Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd.[1]
Bywyd personol Golygu
Roedd T Glynne Davies yn briod â Mair (1932-2016), ac roedd ganddynt bedwar mab:
- Gareth Glyn
- Geraint Glynne Davies
- Aled Glynne
- Owen Glynne Davies, pypedwr blaenllaw gyda Chwmni Cortyn
Bu farw T Glynne yng Nghaerdydd yn 1988.
Llyfryddiaeth Golygu
- Haf Creulon (nofel), 1960
- Llwybrau Pridd (cerddi cyntaf), 1961
- Hedydd yn yr Haul, 1969
- Cân Serch a storiau eraill, 1954
- Yr ysgub olaf, 1971
- Marged, Gwasg Gomer, 1974
- Gwilym Cowlyd, 1828-1904, 1976
- "Cerddi", 1987[2]