Thomas James Powell
Cyfansoddwr ac addysgwr o Gymru oedd Thomas James "TJ" Powell (12 Hydref 1897 – 8 Ionawr 1965).
Thomas James Powell | |
---|---|
Ganwyd | 12 Hydref 1897 Tredegar |
Bu farw | 29 Ionawr 1965 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd, cyfansoddwr, cerddolegydd |
Bywgraffiad
golyguFe'i ganwyd yn Nhredegar, Blaenau Gwent a dechreuodd ei yrfa gerddodrol fel chwaraewr offerynnau taro a chornet gyda Band Pres Iau Byddin yr Iachawdwriaeth. Powell oedd y chwaraewr ieuengaf i chwarae yn angladd sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth, Cadfridog William Booth ar 27 Awst 1912.[1][2]. Cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd â Band Tref Tredegar cyn ymuno â Band y Morfilwyr Brenhinol a pharhau â'i addysg cerddorol yn Ysgol Gerdd y Morfilwyr Brenhinol.
Ym 1920, dychwelodd i dde Cymru a chael ei benodi'n Gyfarwyddwr Cerdd ar Fand Corfflu Cadetiad a Gwirfoddolwyr Melingriffith yn Yr Eglwys Newydd. Gyda Powell yn arwain, dechreuodd Band Melingriffith wneud eu marc ar y byd bandiau pres gan godi o Ddosbarth "C" i Ddosbarth "A".
Roedd Powell yn enwog am gyfansoddi gorymdeithiau i fandiau pres gyda'r rhai mwyaf enwog yn cael eu henwi ar ôl cestyll Cymru - Castell Coch, Castell Caerdydd, Castell Caerffili a Caernarfon Castle, gafodd ei chyfansoddi ym 1958 wedi i'r Frenhines gyhoeddi arwisgiad Y Tywysog Siarl. Mae Powell yn cael ei gymharu â John Phillip Sousa, cyfansoddwr o America sydd hefyd yn enwog am ei orymdeithiau[3], gan ddwyn y teitl answyddgol; y Sousa Cymreig.
Bu farw TJ Powell yn 67 mlwydd oed yn fyw ar raglen radio Challenging Brass, BBC Radio 4. Roedd Powell ar fin arwain Band y Cory yn Stiwdio Gerddorfaol Caerdydd mewn cystadleuaeth yn erbyn Band Pres Luton, oedd mewn stiwdio yn Llundain, ond wrth godi o'i sedd dioddefodd trawiad ar y galon. Cymerodd un o chwaraewr cornet Cory drosodd gyda'r baton a pharhaodd y band i chwarae, ond bu farw Powell cyn gadael y stiwdio[1].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Band Melingriffith: T.J. Powell". City of Cardiff Melingriffith Band. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-28. Cyrchwyd 2015-01-31.
- ↑ "Conductors: Thomas James Powell". Brass Band Results. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-01. Cyrchwyd 2015-01-31.
- ↑ "Composers: TJ Powell". BrassBandResults. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-08. Cyrchwyd 2015-01-31.