Thomas Jones (Taliesin o Eifion)
bardd (1820 -1876) (1820 -1876)
Bardd o Gaernarfon oedd Thomas Jones (13 Medi 1820 – 1 Mehefin 1876).
Thomas Jones | |
---|---|
Ffugenw | Taliesin o Eifion |
Ganwyd | 13 Medi 1820 Llanystumdwy |
Bu farw | 1 Mehefin 1876 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Cefndir
golyguYn 1826 ymsefydlodd ei rieni, a roddodd addysg dda i'w mab, yn Llangollen. Gweithiodd Taliesin fel plymiwr ac addurnwr, gan baentio arwyddion llawer o dafarnau. Meistrolodd y gynghanedd yn ei ieuenctid cynnar, a'i gerddi caeth yw ei waith mwyaf adnabyddus. Daeth yn ffigwr eisteddfodol blaenllaw ac mae 'Brwydr Crogen' yn enghraifft gynnar iawn o ddrama fydryddol yng Nghymru. Anfonodd awdl i Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1876, ond bu farw ar y 1af o Fehefin. Cafodd y gadair a ddyfarnwyd iddo ei gorchuddo â gorchudd du ar lwyfan yr ŵyl — dyna pam fod sôn amdano fel 'bardd y gadair ddu'.[1]
Ffynonellau
golygu- J. Jones (‘Myrddin Fardd’), Enwogion Sir Gaernarfon (1922), 214-7.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "JONES, THOMAS ('Taliesin o Eifion'; 1820 - 1876), bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-29.