Thomas Jones (almanaciwr)

almanaciwr, gwerthwr llyfrau, argraffydd, a chyhoeddwr

Almanaciwr, gwerthwr llyfrau, argraffydd, a chyhoeddwr o Gymro oedd Thomas Jones (1 Mai 16486 Awst 1713). Fe'i ganwyd ger Corwen yn 1648.

Thomas Jones
Ganwyd1 Mai 1648 Edit this on Wikidata
Corwen Edit this on Wikidata
Bu farw8 Awst 1713 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllyfrwerthwr, argraffydd, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler Thomas Jones.

Yn 1769 derbyniodd Letters Patent gan Gwmni y Stationers yn Llundain yn rhoddi iddo yr hawl i ysgrifennu, argraffu, a chyhoeddi almanac yn y Gymraeg. Cyhoeddodd Jones wedyn gyfres o 32 o almanaciau Cymraeg, a ynddangosodd yn flynyddol o 1680 hyd 1712.

Yn 1681 roedd ganddo siop yn Paul's Alley, Dinas Llundain. Ymhlith y llyfrau a gyhoeddodd yn ystod ei gyfnod yn Llundain y mae

  • An Astrological Speculation Of the late Prodigy or ... Comet, or Blazing Star (1681)
  • Llyfr Plygain (1683)
  • Athrawiaeth i Ddysgu Ysgrifennu amriw fath ar ddwylo (1683)
  • Y Gwir er Gwaethed yw (1684), hanes y Cynllwyn Pabaidd
  • Llyfr Gweddi Gyffredin (1687)
  • Llyfr y Psalmau Edmwnd Prys (1687)
  • Y namynun-deugain Erthyglau Crefydd Eglwys Loegr (1688)
  • Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb (1688), sef geiriadur

Yn ogystal ag argraffu a chyhoeddi llyfrau yn Llundain roedd ganddo fusnes helaeth fel llyfrwerthwr, gydag asiantau yng Nghymru a'r Gororau.

Ar ryw adeg, ymsefydlodd yn Amwythig ac yno cyhoeddodd

  • Carolau a Dyriau Duwiol (1696)
  • Artemidorus: Gwir Ddeongliad Breuddwydion (1698)
  • Attebion i'r Hôll Wâg Escusion (1698)
  • Taith y Pererin (1699), cyfieithiad o The Pilgrim's Progress John Bunyan
  • Atcofiad o'r Scrythyr (1704)

Bu Thomas Jones farw yn Amwythig 6 Awst 1713.

Ffynonhellau

golygu