Almanac
Cyhoeddiad blynyddol sy'n rhestru cyfres o ddigwyddiadau sydd i ddod yn y flwyddyn nesaf yw almanac.
Enghraifft o'r canlynol | Genre |
---|---|
Math | gwaith cyfeiriol, annual publication, tertiary source |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n cynnwys gwybodaeth fel rhagolygon y tywydd, dyddiadau plannu i ffermwyr, tablau llanw, a thablau data eraill a drefnwyd yn aml yn ôl y calendr. Mae ffigurau ac ystadegau wybrennol hefyd i'w cael mewn almanaciau, megis amseroedd gwawr a machlud yr Haul a'r Lleuad, dyddiadau eclipsau, amseroedd llanw uchel ac isel, a gwyliau crefyddol.
Mae calendr, sy'n system ar gyfer cadw amser, yn ei ffurf ysgrifenedig fel arfer yn almanac ar ei fwyaf syml: mae'n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am ddiwrnod yr wythnos y mae dyddiad arbennig yn disgyn, y prif wyliau, cyfnodau'r lleuad, ac ati Mae'r gyfres o ddigwyddiadau a nodir mewn almanac yn cael eu dewis yn ôl grŵp penodol o ddarllenwyr ee ffermwyr, morwyr, seryddwyr neu eraill.
Mae tarddiad y gair "almanac" yn aneglur. Mae rhai yn awgrymu ei fod yn tarddu o air Groeg sy'n golygu "calendr", ond unwaith yn unig mae'r gair yn ymddangos yn llenyddiaeth yr Hen Fyd. Mae'r testunau cynharaf a ystyrir yn almanaciau yn dyddio yn ôl i'r ail fileniwm cyn Crist.
Mae'r gair, wedi'i sillafu fel "almanak", yn ymddangos yn Yn y lhyvyr Hwnn,[1] y llyfr cyntaf a argraffwyd yn yr iaith Gymraeg. Roedd y llyfr yn cynnwys elfennau tebyg i almanac, yn benodol y calendr tymhorol ar gyfer ffermwyr. Er hynny, ar ddiwedd y 17g y dechreuodd yr almanac ddod yn gyhoeddiad poblogaidd yng Nghymru, a hynny yn gyntaf trwy waith Thomas Jones, "yr almanaciwr". Yr almanac a gyhoeddodd ar gyfer 1680 oedd y cyntaf o 32 o almanaciau Cymraeg a gyhoeddwyd ganddo.
O ddechrau'r 18g, dechreuodd eraill gyhoeddi almanaciau, yn cynnwys John Jones o Gaeau, Wrecsam; nifer yn yr Amwythig, megis John Rhydderch, John Prys, Gwilym Howell a Cain Jones, ac Evan Thomas; Matthew Williams a John Harris, y ddau yng Nghaerfyrddin yn gyntaf, ac Aberhonddu yn ddiweddarach; a John Jones o Drefriw.[2]
Parhaodd i gyhoeddi almanaciau Cymraeg gydol yr 19g ac i mewn i'r 20g.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ almanac. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Mawrth 2024.
- ↑ 2.0 2.1 "Almanaciau Cymraeg", Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 26 Mawrth 2024