Thomas Kinkade
Arlunydd Americanaidd oedd Thomas Kinkade (19 Ionawr 1958 – 6 Ebrill 2012) sydd yn nodedig am ei baentiadau o olygfeydd eidylaidd a chartrefol. Mae ei baentiadau yn aml yn cynnwys bythynnod, pontydd, gerddi, a themâu "Americana". Cynhyrchodd hefyd baentiadau yn arddull Argraffiadaeth, dan y ffugenw Robert Girrard, o 1984 i 1990.[1]
Thomas Kinkade | |
---|---|
Thomas Kinkade yn 2005. | |
Ganwyd | 19 Ionawr 1958 Sacramento |
Bu farw | 6 Ebrill 2012 o gorddos o gyffuriau Monte Sereno |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | arlunydd, llenor |
Arddull | celf tirlun |
Gwefan | http://www.thomaskinkade.com |
Ganed yn Sacramento[1] a chafodd ei fagu gan ei fam yn Placerville yng ngogledd Califfornia.[2] Astudiodd hanes celf ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley am ddwy flynedd cyn symud i Goleg Dylunio'r Ganolfan Gelf yn Pasadena, Califfornia. Wedi iddo raddio o'r ysgol gelf, teithiodd Kinkade gyda'i gyfaill James Gurney ar y wagen ar draws y wlad, o Galiffornia i Efrog Newydd, yn braslunio tirluniau a threfluniau'r Unol Daleithiau. Cyhoeddwyd rhai o'u lluniau yn y gyfrol The Artist's Guide to Sketching (1982).[1]
Symudodd Kinkade i Hollywood, a chafodd waith yn paentio cefnluniau ar gyfer y ffilm ffantasi animeiddiedig Fire and Ice (1983). Cynhyrchodd ryw 700 o gefnluniau ar gyfer y ffilm honno, sydd yn nodweddiadol o'i dechnegau llewychol.[1] Yn y 1980au, trodd Kinkade yn Gristion ailanedig. Ar yr un pryd, trodd ei sylw at werthu ei waith yn y farchnad boblogaidd yn hytrach na thrwy orielau'r fasnach gelf draddodiadol, a gafodd ei hystyried yn elitaidd ganddo. Gwerthodd ei baentiadau olew mewn orielau lleol, a dechreuodd argraffu printiau rhad o'i waith.[1][2]
Ym 1989 sefydlodd Kinkade a Ken Raasch y cwmni Lightpost Publishing, a ailenwyd yn ddiweddarach yn Media Arts Group, Inc. ac yna The Thomas Kinkade Company. Agorodd orielau ei hunan, yn bennaf yn yr Unol Daleithiau, i adwerthu ei waith. Llwyddodd naws deuluol, heddychlon a hiraethus ei baentiadau i apelio at chwaeth y cyhoedd, a Kinkade oedd un o'r arlunwyr Americanaidd mwyaf poblogaidd a llwyddiannus yn y 1990au. Ymddangosodd ei luniau ar galendrau, cardiau cyfarch, mygiau, ac ati. Ar y llaw arall, cafodd ei waith ei wfftio gan y beirniaid, a'i alw'n Kitsch gan rai.[1]
Bu farw ym Monte Sereno, Califfornia, yn 54 oed, o orddos o alcohol a Valium.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 (Saesneg) Thomas Kinkade. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Ionawr 2021.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Matt Flegenheimer, "Thomas Kinkade, Painter for the Masses, Dies at 54", The New York Times (7 Ebrill 2012). Adalwyd ar 29 Ionawr 2021.