Thomas Morgan (AS bu farw 1565)
Roedd Syr Thomas Morgan (tua 1509 - 5 Mehefin, 1565) yn filwr o Gymru ac yn Aelod Seneddol.[1]
Thomas Morgan | |
---|---|
Ganwyd | Sir Fynwy |
Bu farw | 5 Mehefin 1565 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd1547-1552 |
Tad | William Morgan |
Mam | Florence Brydges |
Plant | William Morgan |
Roedd yn fab hynaf Syr William Morgan, Pencoed, Sir Fynwy a Florence, merch Syr Giles Brydges o Coberley, Swydd Gaerloyw. Roedd yn frawd i Giles Morgan AS Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Ym 1530 ymddangosodd gyda'i dad a'i frawd o flaen Cyngor Cymru a'r Gororau ar gyhuddiad o ddwyn ŷd y degwm oddi wrth Ficer Llanfihangel Rogiet ac am geisio ei daflu allan o'r ficerdy; amddiffyniad y Morganiaid oedd eu bod yn gweithio ar ran Esgob Llandaf, ond bu'r dyfarniad yn eu herbyn.
Roedd yn bensiynwr Bonheddig 1540-1544 ac Ynad Heddwch dros Sir Fynwy o 1543 hyd ei farwolaeth.
Gwasanaethodd yn y rhyfeloedd yn Ffrainc a chafodd ei ddyrchafu'n farchog ar ddiwedd gwarchae Boulogne ym 1544. Cafodd ei ethol yn AS ar gyfer Sir Fynwy wedi iddo ddychwelyd ym 1546[2] ac fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Fynwy ar gyfer 1547-1548 a 1558-1559. Gwasanaethodd fel Prif Stiward Arglwyddiaeth Machen, Casnewydd a Gwynllŵg.
Priododd Cecily, merch Syr George Herbert, Abertawe, bu iddynt 5 fab a merch. Roedd ganddo o leiaf ddwy ferch o'r tu allan i briodas hefyd Jane a Mary sy'n cael eu crybwyll mewn ewyllys a ysgrifennodd cyn mynd i'r rhyfeloedd yn Ffrainc. Bu ei fab William Morgan yn AS Bwrdeistrefi Trefynwy.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "MORGAN, Sir Thomas (by 1509-65), of Pencoed, Mon". History of Parliament Online. Cyrchwyd 17 Mehefin 2016.
- ↑ W R Williams The Parliamentary History of the Principality of Wales adalwyd 18 Mehefin 2016
Senedd Lloegr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Walter Herbert |
Aelod Seneddol Sir Fynwy 1547 |
Olynydd: Charles Herbert |