Nofelydd, dramodydd, a dychanwr o Sais oedd Thomas Nashe (1567 – tua 1601). Roedd yn bamffledwr brwd ac yn un o Ffraethebwyr y Prifysgolion yn Oes Elisabeth, yn amddiffynnydd dros Eglwys Loegr, ac yn arloeswr ffuglen antur yn llenyddiaeth Saesneg Lloegr. Er gwaethaf gwreiddioldeb ac hynodwedd ei waith, a'i ymdriniaeth ystrywgar â diwylliant llenyddol ei oes, mae rhai awduron yn ei ystyried yn esiampl o "lên heb ymrwymiad": chwedl C. S. Lewis, "Os gofynnir inni beth y mae Nashe yn ei 'ddweud', dylsem ateb, Dim".[1][2]

Thomas Nashe
FfugenwCutbert Curriknave, Cutbert Curry-Knave, Marphoreus, Philopolites Edit this on Wikidata
GanwydTachwedd 1567 Edit this on Wikidata
Lowestoft Edit this on Wikidata
Bu farw1601 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, ysgrifennwr, nofelydd, bardd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSummer's Last Will and Testament Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Lowestoft, Suffolk. Astudiodd yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, a derbyniodd ei radd baglor yn 1586. Aeth i Lundain tua 1588 a daeth yn gyfeillgar â Robert Greene a llenorion eraill. Ei weithiau cynnar oedd The Anatomie of Absurditie (1589), a'i raglith i un o weithiau Greene, Menaphon.

Daeth Nashe yn ysgrifennwr tâl i Eglwys Loegr yn 1589, yn ystod y ddadl dros draethodynnau piwritanaidd, a gyhoeddwyd dan yr enw Martin Marprelate, oedd yn lladd ar yr esgobion Anglicanaidd. Priodolir sawl pamffled amddiffynnol ac ymateb dychanol o'r ddadl i Nashe, dan y ffugenw Pasquil, ond yr unig un a ysgrifennwyd ganddo yn sicr ydy An Almond for a Parrat (1590). Bu Nashe hefyd yn cweryla, er amddiffyn y diweddar Greene, â'r bardd Gabriel Harvey a'i frawd Richard Harvey. Daeth yr ymgecru i ben yn 1599 ar orchymyn Archesgob Caergaint.

Yn 1592 cyhoeddodd Nashe y rhyddiaith ddychanol Pierce Penniless, His Supplication to the Divell, gwaith sy'n lladd ar y brodyr Harvey, Marprelate a'i fintai, a'r cyhoedd am esgeuluso gwaith llenorion pwysig y cyfnod. Yn ei bamffled Christs Teares over Jerusalem (1593) fe wnai ffaeleddau'r Llundeinwyr yn gyff gwawd wrth ddadlau bod achosion o'r pla yn y ddinas yn gosb am gamymddygiad ei thrigolion. Yn The Terrors of the Night (1594) cyfeiriodd ei ddirmyg at gythreuleg.

Cyhoeddodd Nashe ei gampwaith, y nofel The Unfortunate Traveller; or, The Life of Jack Wilton, yn 1594. Hon yw'r stori bicarésg gyntaf yn yr iaith Saesneg, a chafodd ddylanwad mawr ar lên Lloegr yr 17g a'r 18g, megis nofelau antur Daniel Defoe a Tobias Smollett. Yn 1594 hefyd cyfrannodd Nashe at y ddrama Dido, Queen of Carthage gan Christopher Marlowe. Cyd-ysgrifennodd y ddrama Isle of Dogs (1597) gyda Ben Jonson, a bu'n rhaid i'r ddau ohonynt ffoi i Yarmouth, Norfolk, yn sgil dwyn achos llys yn eu herbyn.[3]

Yn ei waith Nashes Lenten Stuffe (1599), sonir am bysgota penwaig yn Yarmouth. Un o'i gyhoeddiadau olaf yw'r masc Summers Last Will and Testament (1600), er iddo ei ysgrifennu yn 1592. Bu farw tua 1601, o bosib yn Yarmouth.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Dyfyniad gwreiddiol yn Saesneg: "If asked what Nashe 'says', we should have to reply, Nothing."
  2. Per Sivefors, "Committing Authorship: Thomas Nashe and the Engaged Reader", Études Épistémè 29 (2016), tt. 1–13. Adalwyd ar 23 Chwefror 2019. DOI : 10.4000/episteme.1065
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Thomas Nashe. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Chwefror 2019.