Thomas Pryse
Roedd Thomas Pryse (bu farw 1623) o Glanfared, Llanfihangel Genau'r Glyn yn fonheddwr o Gymru a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceredigion ym 1597[1].
Thomas Pryse | |
---|---|
Ganwyd | Llandre |
Bu farw | 1623 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1597-98 Parliament |
Tad | John Pryse |
Roedd Price yn ail fab i John Pryse, Gogerddan a'i wraig Elizabeth merch. Syr Thomas Perrot, Haroldstone, Sir Benfro, roedd yn frawd i Syr Richard Pryse.
Addysgwyd Pryse yn Ysgol yr Amwythig a'r Deml Fewnol lle cymhwysodd yn fargyfreithiwr tua 1588
Priododd Bridget merch ac etifedd Siôn ap Gruffydd ap Ieuan ap Siamcin, Glanfared, bu iddynt pum mab a saith ferch.
Ym 1594 ymddangosodd o flaen Llys Siambr y Seren ar gyhuddiad o drywanu un o Ustusiaid y Sesiwn Fawr yn Aberteifi.
Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch ar fainc Ceredigion o 1595, Aelod Seneddol Ceredigion ym 1597 a Stiward Maenorau Brenhinol Ceredigion ym 1601.[2]
Ysgrifennodd ewyllys ar 11 Medi 1623 a brofwyd ar 12 Tachwedd o'r un flwyddyn.
Cyfeiriadau
golyguSenedd Lloegr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Richard Pryse |
Aelod Seneddol Ceredigion 1597 – 1598 |
Olynydd: Richard Pryse |