Thomas Richards (Tasmania)
Roedd Thomas Richards (1800 – 18 Gorffennaf, 1877) yn feddyg Cymreig a ymfudodd i Awstralia lle fu yn un o sylfaenwyr newyddiaduraeth yn y wlad.[1]
Thomas Richards | |
---|---|
Ganwyd | 1800 ![]() Dolgellau ![]() |
Bu farw | 18 Gorffennaf 1877 ![]() Hobart ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, meddyg, ysgrifennwr ![]() |
Cefndir Golygu
Ganwyd Richards yn Nolgellau yn blentyn i Thomas Richards, cyfreithiwr ac Elizabeth ei wraig. Nid oes cofnod o union ddyddiad ei eni ond fe'i bedyddiwyd yn Eglwys St Mair, Dolgellau ar 10 Gorffennaf 1800.[2]
Teulu Golygu
Priododd Hannah Elsemere, née Adams ar 26 Tachwedd 1828 yn St Pancras, Llundain;[3] cawsant fab a thair merch.
Gyrfa Golygu
Cafodd Richards ei addysgu yn Christ's Hospital, Llundain rhwng 1809 a 1815. Bu wedyn yn brentis i feddyg ac yn mynychu clinigau yn Ysbyty St Bartholomew. Graddiodd gyda Thrwydded Cymdeithas yr Apothecariaid ym 1823. Am y naw mlynedd gyntaf wedi iddo dderbyn ei drwydded bu'n gweithio fel meddyg yn Llundain. Bu hefyd yn cyfrannu yn achlysurol i'r cylchgronau llenyddol The Monthly Magazine a'r British Register.[4]
Ym 1832 cafodd Richards swydd fel meddyg llong ar long oedd yn teithio i Awstralia. Aeth ei wraig a'i blentyn gydag ef ar y daith gan fod y teulu am sefydlu yn Awstralia ar ddiwedd y daith. Cyrhaeddodd tref Hobart ym mis Hydref 1832. Sefydlodd meddygfa yn Elizabeth Town, Tasmania.
Ychydig wedi iddo gyrraedd Tasmania sefydlodd Henry Melville (awdur y llyfr Moby Dick) y cylchgrawn Hobart Town Magazine. Bu Richards yn olygydd a chyfrannwr rheolaidd i'r cylchgrawn yn ystod ei oes fer rhwng Mawrth 1833 ac 1834.
Parhaodd i fod yn feddyg hyd 1836, er ei fod wedi bod yn gweithio fel clerc i Adran Syrfëwr Tref Hobart rhwng 1834 a 1837. Rhwng 1837 a 1847 bu'n gweithio fel prif ohebydd y papur The Colonial Times. Wedi ymweliad a Phrydain rhwng 1847 a 1848 dychwelodd i Tasmania gan weithio eto fel meddyg am gyfnod. Yn hwyrach yn ei oes aeth yn ôl i newyddiadura fel gohebydd a phrawf ddarllenydd i'r Hobart Mercury, gan barhau yn y swydd hyd ei farwolaeth.[4]
Am ei gyfraniad hir i newyddiaduraeth ar yr ynys mae Richards yn cael ei adnabod fel tad gwasg Tasmania.[5]
Llenor Golygu
Roedd Richards yn feirniad drama gyntaf Awstralia ac yn arloeswr y stori fer.[6]
Cyhoeddwyd y rhan helaethaf o waith llenyddol adnabyddadwy Richards yn y Hobart Town Magazine. Roedd o leiaf hanner ei gynnwys yn gerddi, traethodau, adolygiadau, brasluniau a straeon byrion ganddo ef. Mae'n anodd gwneud rhestr gyflawn o'i weithiau lenyddol gan ei fod yn aml yn ysgrifennu o dan ffugenwau, er mwyn cuddio faint o gynnwys y papurau oedd wedi dod o'i ysgrifbin ef. Roedd Edward Trevor Anwyl a Peregrine ymysg yr enwau byddai'n defnyddio. Roedd cefndir Cymreig i nifer o'i straeon byrion ac wedi gosod ym Meirionnydd ei blentyndod.[7]
Yn 2017 casglodd a golygodd Rita Singer nifer o'i straeon Cymreig a'u cyhoeddi fel Rob the Red-Hand and Other Stories of Welsh Society and Scenery [8]
Marwolaeth Golygu
Bu farw yn Portsea Place, Hobart yn 77 mlwydd oed.[9]
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ "RICHARDS, THOMAS (1800 - 1877), llenor Awstralaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-11.
- ↑ Cofrestrau Bedydd 1800 Eglwys St Mair Dolgellau, yng ngofal Gwasanaeth Archifau Gwynedd; Dolgellau; Cyfeirnod: ZM/5835
- ↑ Cofrestr Priodasau Parish Chapel, St Pancras, Camden, yng ngofal London Metropolitan Archives; Llundain; Cyfeirnod: p90/pan1/064
- ↑ 4.0 4.1 Horner, J. C., "Richards, Thomas (1800–1877)", Australian Dictionary of Biography (National Centre of Biography, Australian National University), http://adb.anu.edu.au/biography/richards-thomas-4472, adalwyd 2019-11-11
- ↑ Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion ar gyfer 1988; Parch Patric Haldane-Stevenson THE WELSH IN AUSTRALIA.
- ↑ "Tasmanian Creativity". www.utas.edu.au. Cyrchwyd 2019-11-11.
- ↑ Jenkins, Bethan (2018-03-17). "Books | Rob the Red-Hand by Thomas Richards". Wales Arts Review. Cyrchwyd 2019-11-11.
- ↑ Richards, Thomas (2017). Singer, Rita (gol.). Rob the Red-Hand : and other Stories of Welsh Society and Scenery. Aberystwyth: Celtic Studies Publications. ISBN 9781891271274. OCLC 1059221513.
- ↑ Australia, Death Index, 1787-1985, Hobart Tasmania, 1877 rhif 604