Thomas Salusbury (ganed 1564)

cynllwynwr

Mab hynaf Catrin o Ferain a Syr John Salusbury oedd Syr Thomas Salisbury (neu Salusbury; 1564 – 20 Medi 1586) a ddienyddiwyd fel teyrnfradwr yn 1586 am ei ran yng Nghynllwyn Babington. Ef oedd etifedd ystad enfawr Lleweni, Sir Ddinbych. Oherwydd ei ddienyddio, etifeddwyd yr ystad gan ei frawd John Salusbury (1566 - 1612), bardd ac Aelod Seneddol.[1][2]

Thomas Salusbury
Ganwyd1564 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
Bu farw20 Medi 1586 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
TadJohn Salusbury Edit this on Wikidata
MamCatrin o Ferain Edit this on Wikidata
PlantMargaret de Salisbury Edit this on Wikidata

Priododd Margaret Wynn (merch Maurice Wynn, trydydd gŵr Catrin o Ferain), a'u merch Margaret, a etifeddodd Berain maes o law, ond aeth Lleweni, fel y nodwyd uchod, i ddwylo brawd ei gŵr, sef John Salusbury.

Cynllwyn Babington golygu

Cynllwyn i ladd Elisabeth I, brenhines Lloegr oedd Cynllwyn Babington; Protestant oedd Elisabeth (neu 'Bes' fel y'i gelwid yng Nghymru). Yn nod oedd rhoi ei chyfneither Mari, brenhines yr Alban, a oedd yn Gatholig, ar Orsedd Lloegr yn ei lle. Arweiniodd hyn at ddienyddiad Mari wedi carchar o 19 mlynedd (ers 1568), yn bennaf ar sail llythyr a ddanfonodd yn cytuno gyda chais i ladd y frenhines.[3]

Cyhuddwyd sawl un o gynllwynio i ladd Elisabeth, gan gynnwys Syr Thomas Salisbury a Syr Anthony Babington, a gwnaed hynny drwy grogi, diberfeddu a chwarteru.

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Bywgraffiadur Arlein ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd 19 Medi 2017.
  2. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; gol: John Davies; 2008.
  3. Somerest, Anne (1991). Elizabeth One. tt. 545–548.