Thomas Traherne
Bardd o Loegr oedd Thomas Traherne (10 Hydref 1636 – 10 Hydref 1674) sy'n nodedig fel un o'r clerigwyr Anglicanaidd, gyda'r Eingl-Gymry George Herbert ac Henry Vaughan, a fu'n cyfansoddi cerddi cyfriniol yn yr 17g. Caiff ei gyfri hefyd ymhlith y beirdd Metaffisegol.
Thomas Traherne | |
---|---|
Ganwyd | 10 Hydref 1636 Henffordd |
Bu farw | 10 Hydref 1674 Teddington |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, diwinydd, llenor |
Swydd | caplan |
Ganwyd yn Henffordd yn fab i grydd. Astudiodd yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen, a chafodd ei ordeinio yn 1660. Aeth i weinidogaethu yn Credenhill, Swydd Henffordd, yn 1661 a daliodd y plwyf hwnnw am weddill ei oes. Yn y cyfnod 1669–74 aeth i fyw yn Llundain ac yn Teddington, Middlesex, yn gaplan i Syr Orlando Bridgeman, yr hwn oedd yn arglwydd geidwad o 1667 i 1672. Penodwyd Traherne yn weinidog Eglwys Teddington yn 1672, a chafodd ei gladdu yno pan fu farw dwy flynedd yn hwyrach, tua 37 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Thomas Traherne. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Awst 2019.
Darllen pellach
golygu- Elizabeth S. Dodd, Boundless Innocence in Thomas Traherne's Poetic Theology: 'Were all Men Wise and Innocent...' (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2015).
- Elizabeth S. Dodd a Cassandra Gorman (goln.), Thomas Traherne and Seventeenth-Century Thought (Caergrawnt: Boydell & Brewer, 2016).