Thomas Williams, Llanidan

twrnai ac un o brif lywiawdwyr y diwydiant copr

Roedd Thomas Williams, Llanidan (13 Mai 173730 Tachwedd 1802) yn un o ddiwydiannwyr amlycaf y 18g.

Thomas Williams, Llanidan
Thomas Williams, tua 1792–95. Portread gan Thomas Lawrence, olew ar gynfas, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Ganwyd13 Mai 1737 Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 1802 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 17eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadOwen Williams Edit this on Wikidata
MamJane Lloyd Edit this on Wikidata
PlantOwen Williams, Emma Williams, Jane Williams Edit this on Wikidata

Roedd Thomas Williams yn fab i Owen Williams, Cefn Coch, Llansadwrn, Ynys Môn. Daeth yn gyfreithiwr, a bu'n cynrychioli teulu Hughes, Llysdulas, yn eu hachos yn erbyn Syr Nicholas Bayly o Blas Newydd ynghylch perchenogaeth gwaith copr Mynydd Parys ger Amlwch. Parhaodd yr achos yma am tua naw mlynedd, ac ni setlwyd y mater hyd 1778.

O gwmpas 1785 daeth yn brif reolwr Mynydd Parys, oedd erbyn hynny ym mherchenogaeth Iarll Uxbridge a Hughesiaid Llysdulas. Tyfodd y gwaith yn fawr dan ei reolaeth ef, a gallodd nid yn unig gynyddu cynhyrchiad copr ond hefyd sefydlu nifer o ddiwydiannau eraill cysylltiedig a'r diwydiant copr. Rhwng 1787 a 1792 bu yn rheoli'r Cornish Metal Company, oedd yn golygu ei fod yn rheoli bron y cyfan o ddiwydiant copr Prydain. Erbyn tua 1800 dywedid bod tua hanner diwydiant copr y byd yn ei ddwylo ef. Roedd yn boblogaidd gyda'r gweithwyr, a'i galwai'n "Twm Chwarae Teg", oherwydd ei ddull gonest o drin ei weithwyr ac o fasnachu, ond roedd yn llai poblogaidd gyda'i gystadleuwyr mewn busnes.

Daeth yn Aelod Seneddol dros Great Marlow yn Lloegr yn 1790. a chadwodd y sedd hyd ei farwolaeth. Dywedir mai ef oedd y gŵr cyfoethocaf yng Nghymru erbyn hynny.

Llyfryddiaeth golygu

  • J. R. Harris The Copper King: A biography of Thomas Williams of Llanidan (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 1964).