Tiberius
Tiberius Caesar Augustus neu Tiberius (16 Tachwedd 42 CC – 16 Mawrth 37 OC) oedd ail Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Tiberius Claudius Nero. Bu'n ymeradwr o 18 Medi 14 OC hyd ei farwolaeth.[1]
Tiberius | |
---|---|
Ganwyd | Tiberius Claudius Nero 16 Tachwedd 42 CC Rhufain |
Bu farw | 16 Mawrth 0037 Miseno |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | person milwrol, gwleidydd, milwr |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Tad | Tiberius Claudius Nero, Marcus Gallius, Augustus |
Mam | Livia |
Priod | Vipsania Agrippina, Iulia Maior |
Plant | Drusus Julius Caesar, Claudia/Claudius, Tiberillus, Germanicus |
Llinach | Julio-Claudian dynasty, Claudii Nerones, Julii Caesares |
Gwobr/au | Pencampwr Olympaidd, tethrippon (cerbyd 4 ceffyl) |
Roedd yn fab i Tiberius Claudius Nero a Livia Drusilla, ac yn frawd i Drusus. Ail-briododd ei fam ag Augustus ar ôl cael ysgariad oddi wrth dad Tiberius, a thrwy fod yn fab maeth i Augustus, etifeddodd Tiberius yr ymerodraeth.
Bu blynyddoedd cyntaf teyrnasiad Tiberius yn llwyddiannus; sefydlogwyd y ffin yn Germania a dangosodd ei hun yn weinyddwr galluog. Fodd bynnag, gwaethygodd y berthynas rhyngddo ef ac aelodau'r Senedd. Yn y flwyddyn 27 OC, aeth yr ymerawdwr i fyw i ynys Capri, ar yr arfordir gerllaw Napoli. Daeth pennaeth Gard y Praetoriwm, Lucius Aelius Seianus, yn ddylanwadol iawn. Ceisiodd Seianus droi Tiberius yn erbyn ei deulu, iddo ef ei hyn gael ei enwi fel ei etifedd, ond dienyddiwyd ef yn 31 OC. Gwnaeth brad ei gyfaill Seianus i'r ymerawdwr, oedd eisoes yn ddrwgdybus o'r Senedd, yn fwy drwgdybus byth, a dienyddiwyd nifer o Seneddwyr a gwŷr amlwg eraill yn ei flynyddoedd olaf.
Bu farw yn Misenum yn 77 oed, a dilynwyd ef gan Caligula.
Rhagflaenydd: Augustus |
Ymerawdwr Rhufain 18 Medi 14 OC – 16 Mawrth 37 OC |
Olynydd: Caligula |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Tiberius | Roman emperor". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Mawrth 2018.