Marc diacritig a ddefnyddir mewn sawl iaith yw tild[1] neu tilde (~). Mae'n nodi bod ynganiad llythyren o'r wyddor i gael ei newid mewn rhyw ffordd. Gall y newid amrywio'n fawr yn dibynnu ar yr iaith.

Dyma ychydig o ddefnyddiau'r marc sydd i'w cael yn ieithoedd y byd.

  • Gellir ei ddefnyddio yn Sbaeneg dros y llythyren n i ddangos y dylid ei hynganu fel cytsain daflodol (a ddangosir fel ɲ yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA)), fel yn y geiriau España ("Sbaen"), mañana ("yfory") a niña ("merch"). (Sylwch fod y ddwy lythyren n yn mañana ac niña yn digwydd gyda tild a heb tild; mae synau'r ddwy lythyren yn dra gwahanol.) Mae'r defnydd hwn o ñ i'w gael yn systemau ysgrifennu nifer o ieithoedd eraill, e.e. Astwrieg, Basgeg, Galisieg, Aymara, Guaraní, Quechua, Tetwm a Woloffeg.
  • Yn Llydaweg, fodd bynnag, mae'r llythyren ñ yn ddistaw, ond mae'n dangos y dylai'r llafariad blaenorol fod yn drwynoledig.
  • Defnyddir y tild ym Mhortiwgaleg dros y llythrennau a ac o i ddangos y dylid eu hynganu fel llafariaid trwynoledig, e.e. balão ("balŵn), balões ("balwnau").
  • Yn Hen Roeg gellir ei defnyddio yn lle acen grom i ddangos yr acen "uchel-isel".
  • Yn Fietnameg dros lafariad mae'n dynodi tôn "creclyd".

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, s.v. "tilde". Enw gwrywaidd, lluosog "tildau" neu "tildiau".

Dolenni allanol golygu