Cytsain daflodol
Mewn seineg, yngenir cytsain daflodol â'r tafod yn erbyn y daflod galed.
Ceir y cytseiniaid taflodol canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
---|---|---|---|---|---|
Iaith | Sillafu | IPA | Ystyr | ||
cytsain drwynol daflodol | Ffrangeg | agneau | [aɲo] | oen | |
cytsain ffrwydol daflodol ddi-lais | Hwngareg | hattyú | [hɒcːuː] | alarch | |
cytsain ffrwydol daflodol leisiol | Latfieg | ģimene | [ɟimene] | teulu | |
cytsain ffrithiol daflodol ddi-lais | Almaeneg | Licht | [lɪçt] | golau | |
cytsain ffrithiol daflodol leisiol | Sbaeneg | yema | [ʝema] | melynwy | |
cytsain amcanedig daflodol | Cymraeg | iâr | [jaːr] | iâr | |
cytsain amcanedig ochrol daflodol | Eidaleg | aglio | [aʎːo] | garlleg | |
cytsain fewngyrchol daflodol leisiol | Swahili | hujambo | [huʄambo] | helô | |
clec daflodol | Nǀu | ǂoo | [ǂoo] | dyn |