Timothy Evans (achos camwedd)

Cymro o Ferthyr Tudful, y cyhuddwyd ef o lofruddio ei wraig a'i ferch fach oedd Timothy John Evans (20 Tachwedd 19249 Mawrth 1950). Roedd y teulu'n byw yn rhif 10 Rillington Place, yn Notting Hill yn Llundain. Ym mis Ionawr 1950, rhoddwyd ef ar brawf am lofruddio'i ferch yn eu cartref yn niwedd 1949; mewn achos byr, fe'i dyfarnwyd yn euog, a'i ddedfrydu i farwolaeth drwy grogi. Yn ystod ei brawf, roedd Timothy Evans wedi cyhuddo cymydog i'r teulu, John Christie, o'r llofruddiaethau. Dair blynedd ar ôl dienyddio Timothy Evans, canfuwyd sawl corff yn yr adeilad a sylweddolwyd bod Christie wedi lladd nifer o ferched eraill yno. Cyn iddo yntau gael ei ddienyddio, cyfaddefodd mai ef a laddodd Mrs. Evans. Penderfynodd ymchwiliad swyddogol ym 1966 mai John Christie oedd wedi llofruddio'r ferch fach hefyd, a rhoddwyd pardwn i Timothy Evans.

Timothy Evans
Ganwyd20 Tachwedd 1924 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mawrth 1950 Edit this on Wikidata
o crogi Edit this on Wikidata
HM Prison Pentonville Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethgyrrwr lori Edit this on Wikidata
Timothy Evans (canol) yn cael ei hebrwng gan yr heddlu o Orsaf Paddington i orsaf heddlu Notting Hill ym mis Rhagfyr 1949

Bu'r achos yn bwnc llosg am flynyddoedd, a chydnabyddir ef fel achos o gamwedd difrifol. Daeth yn amlwg bod pwysau wedi ei roi ar dystion gan yr heddlu a bod llawer o'r dystiolaeth berthnasol heb ei chyflwyno yn y llys. Ynghyd ag achos Derek Bentley ac achos Ruth Ellis, chwaraeodd achos Timothy Evans ran bwysig yn y penderfyniad diweddarach i gael gwared ar y gosb eithaf yn y Deyrnas Unedig ym 1965.