Timothy Evans (tenor)
Canwr o Lanbedr Pont Steffan yw Timothy Evans, neu ar lafar, Pafaroti Llanbed (ganed tua 1961).[1] Caiff ei gydnabod fel "un o denoriaid gorau Cymru".[2]
Daeth Timothy Evans i amlygrwydd mewn eisteddfodau: mae wedi ennill ar yr unawd tenor bum gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol a theirgwaith yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen. Ym 1991, enillodd wobr Canwr y Flwyddyn yn Llangollen.
Dai Jones Llanilar roddodd yr enw Pafaroti Llanbed arno yn gyntaf (gan ei gymharu â'r tenor byd-enwog Luciano Pavarotti), a hynny ar ei raglen ceisiadau boblogaidd Ar eich cais ar Radio Cymru lle caiff recordiau Timothy Evans eu chwarae'n gyson.[3] Er ei fod wedi teithio'r byd yn canu yn achlysurol, dewisodd aros yn ei fro enedigol i amaethu a gweithio yn Swyddfa Bost y teulu yn hytrach na mynd ati i wneud enw iddo'i hunan ar y llwyfan rhyngwladol.[4]
Recordiau
golygu- Clyw fy nghân (1996)
- Yr Hudol Awr (1999)
- Timothy (2001)
- Dim ond un gair (2003)
- Dagrau (2009)[5]
Ffynonellau
golygu- ↑ Timothy Evans - Pafaroti Llanbed. BBC (28 Tachwedd 2011).
- ↑ Y Brifysgol yn Anrhydeddu Cymrodyr Lleol ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (2 Mawrth 2010).
- ↑ Y cymeriad tu ôl i’r llais – Timothy Evans. Y Cymro (10 Tachwedd 2011).
- ↑ Timothy Evans - Dim ond un gair. Recordiau Sain (2003).
- ↑ Fideo: CD Newydd Timothy Evans - Dagrau. Recordiau Sain ar youtube (3 Chwefror 2010).