Timothy Rees

esgob Llandaf

Bu Timothy Rees (15 Awst 1874 - 29 Ebrill 1939) yn Esgob Llandaf rhwng 1931 a 1939

Timothy Rees
Ganwyd15 Awst 1874 Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ebrill 1939 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ardwyn Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad, emynydd Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes filwrol Edit this on Wikidata

Un o Sir Aberteifi oedd Timothy Rees. Fe'i ganed Catherine yn y Llain, Llanbadarn Trefeglwys, yn fab i David a Catherine Rees.

Addysgwyd ef yn Ysgol Ardwyn, Aberystwyth, Ysgol y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, a Choleg Dewi Sant, gan raddio gyda B.A. ym 1896. Mynychodd Goleg Sant Mihangel, Aberdâr, am flwyddyn cyn ael ei ordeinio’n ddiacon ym mis Rhagfyr 1897, ac yn offeiriad y flwyddyn ganlynol.

Gwasanaethodd am ddwy flynedd fel curad yn Aberpennar, yna dychwelodd i Goleg Sant Mihangel fel darlithydd. Gadawodd Gymru yn 1906 ar mwyn ymuno â Chymuned yr Atgyfodiad ym Mirfield yn Swydd Efrog. Arhosodd yno am chwarter canrif, ac eithrio am bum mlynedd (1914–19) pan fu'n gaplan yn y fyddin. Gwasanaethodd yn Gallipoli, yr Aifft ac ar y Somme. Dyfarnwyd yr M.C iddo am ei waith yn achub a chynorthwyo milwyr clwyfedig ar y Somme. Bu’n brifathro'r coleg diwinyddol ym Mirfield rhwng 1922 a 1928.[1]

Pan urddwyd ef yn Esgob Llandaf yn 1931 ef oedd yr aelod cyntaf o gymuned grefyddol i'w benodi i esgobaeth Anglicanaidd yng Nghymru ers dros dair canrif. Daeth yn esgob ar gynfnod mwyaf difrifol y dirwasgiad economaidd; wynebodd yn syth y problemau a achoswyd gan ddiweithdra yn y cymunedau diwydiannol. Er ei fod yn aelod blaenllaw o sefydliad Cymru, roedd yn dra chefnogol i fuddiannau’r dosbarth gweithiol.[2] Fel llywydd Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol De Cymru a Sir Fynwy, cymerodd ran flaenllaw yn y gwaith o hyrwyddo clybiau galwedigaethol a gweithgareddau eraill i'r di-waith. Yn 1935 arweiniodd ddirprwyaeth i Whitehall i ofyn am gymorth y llywodraeth i adnewyddu De Cymru.[3]

Roedd yn siaradwr o fri yn y Gymraeg a’r Saesneg ac roedd ei benodi’n esgob yn arwydd o agwedd fwy cadarnhaol yn yr Eglwys tuag at yr iaith Gymraeg. Roedd yn awdur sawl emyn gan gynnwys ‘Holy Spirit, ever living as the church's very life’, ‘God is love, let heaven adore him’ (a osodwyd ar y dôn Twigworth gan Herbert Howells yn 1968) ac ‘O crucified Redeemer’.

Arhosodd Rees yn Llandaf hyd ei farwolaeth ar 29 Ebrill 1939. Claddwyd ef yng nghysgod yr eglwys gadeiriol; mae cofeb bres iddo ar lawr y Capel Mair.

Cyfeiriadau golygu

  1. "REES, TIMOTHY (1874 - 1939), esgob Landaff | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-04-03.
  2. "The bishop of Landaff: a great preacher". Times. 1 Mai 1939.
  3. Parker, Linda Mary (2013). "Shell-shocked Prophets: The influence of former Anglican army chaplains on the Church of England and British society in the inter war years" (PDF). Cyrchwyd 24 Mawrth 2020.
Rhagflaenydd:
Joshua Pritchard Hughes
Esgob Llandaf
19311939
Olynydd:
John Morgan (archesgob)