Tipu Sultan
Uchelwr o frenhinlin Fwslimaidd o India oedd Tipu Sultan (Sultan Fateh Ali Sahab Tipu; 1750 – 4 Mai 1799) a fu'n Swltan ar Deyrnas Mysore o 1782 hyd at ei farwolaeth. O ganlyniad i'w ymgyrchoedd yn rhyfeloedd yn ne India yn niwedd y 18g, enillodd yr enw Teigr Mysore.[1]
Tipu Sultan | |
---|---|
Portread o Tipu Sultan | |
Ganwyd | 20 Tachwedd 1750 Devanahalli |
Bu farw | 4 Mai 1799 Srirangapatna |
Galwedigaeth | llenor |
Ganed yn Devanahalli, ger Bangalore, yn rhanbarth y Carnatic, yn fab i Hyder Ali, cadfridog i Maharaja Mysore, a gipiai'r swltaniaeth ym 1761. Gwnaed ymgais i'w addysgu yn ofalus yng ngwahanol ganghennau'r ddysgeidiaeth a ddiwyllir ymysg Mwslimiaid India, ond rhodd Tipu y flaenoriaeth i ymarferiadau corfforol, a'i hoff gymdeithion oedd y swyddogion milwrol Ffrengig oedd yng ngwasanaeth ei dad, ac oddi wrthynt ddysgodd lawer o gadofyddiaeth Ewropeaidd. Defnyddiodd y wybodaeth hon ar faes y gad yn ystod yr amrywiol ryfeloedd a ddygwyd ymlaen gan ei dad, ac yn enwedig pan orchfygodd y Cyrnol Bailey ym 1780. Ym 1767 arweiniodd Tipu gorfflu o farchfilwyr yn erbyn lluoedd y Maratas yn ystod goresgyniad y Carnatic, a brwydrodd yn erbyn y Maratas sawl tro eto yn y cyfnod 1775–79. Yn ystod Ail Ryfel Mysore, gorchfygodd efe y Cyrnol John Barthwaite ar lannau Afon Kollidam yn Chwefror 1782.
Yn sgil marwolaeth ei dad ym 1782, coronwyd Tipu fel ei olynydd, ond heb lawer o seremoni, ac aeth yntau yn ddioed i arwain y fyddin oedd ar y pryd yn wynebu lluoedd Cwmni India'r Dwyrain ger Arcot. Yn Ebrill 1783, cymerodd Tipu amddiffynfa Bednore, a roddodd i farwolaeth y gwarchodlu. Gwnaed cytundeb heddwch rhyngddo a'r Prydeinwyr ym Mawrth 1784. Yn ystod parhad yr heddwch hwn trodd ei sylw at y gwaith o drefnu a rheoleiddio achosion Mysore, ond ym 1790 fe ymosododd ar y sefydliadau Prydeinig yn Travancore. Yn y rhyfel a ddilynodd, cynorthwywyd y Prydeinwyr, o dan y Cyrnol Stuart a'r Arglwydd Cornwallis, gan y Maratas a lluoedd Nizam Hyderabad, a oedd yn casáu Tipu. Er fod y Swltan wedi llwyddo am beth amser i anrheithio holl wlad y Carnatic ym mron hyd byrth Madras, bu raid iddo roddi i fyny hanner ei diriogaethau ar 16 Mawrth 1792, talu dirwy drom, rhoddi i fyny ei holl garcharorion, a chyflwyno ei ddau fab yn wystlon. Er hyn oll ni bu yn llonydd: dechreuodd gynllwyn drachefn yn erbyn y Prydeinwyr yn India, a cheisiai eu bradychu i ddwylo'r Ffrancod, ond daeth ei gynllwynion yn hysbys i'r llywodraethwr cyffredinol, ac efe a benderfynodd gosbi'r Swltan twyllodrus. Dechreuodd rhyfel ym Mawrth 1799, ac ymhen dau fis, gyrrwyd Tipu i Seringapatam, ei brifddinas. Ar ôl gwrthsafiad dewr o'i du ef yno, cafodd ei ladd. Claddwyd ef ym medrodd ei dad, yng nghanol storm ofnadwy o fellt a tharanau a achosodd farwolaeth amryw o'r Ewropeaid a'r Indiaid.
Ar ôl 1792, roedd ei deyrnasiad ym Mysore yn hynod o orthrymus. Daeth yn ddrwg-enwog am ei gamdriniaeth o'i elynion: gorchmynnai torri coesau, breichiau, clustiau, a thrwynau oddi ar wrthryfelwyr cyn eu crogi, a châi carcharorion rhyfel eu gorfodi i droi'n Fwslimiaid ac enwaedu arnynt. Er gwaethaf ei daliadau crefyddol syncretaidd ei hunan, dinistriodd Tipu demlau ac eglwysi yn ei gyrchoedd, ac arferai'r gosb eithaf yn erbyn Hindŵaid a Christnogion drwy eu clymu wrth goesau eliffantod.[2] Er hynny parhaodd yn dra phoblogaidd yn ei deyrnas, ac ar ôl ei farwolaeth anrhydeddwyd coffadwriaeth Tipu Sultan fel merthyr dros grefydd Islam.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Tippu Sultan. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Mawrth 2021.
- ↑ William Dalrymple, The Anarchy: The Relentless Rise of the East India Company (Llundain: Bloomsbury, 2019), t. 321.