Amrywiad bychan ar y toddaid yw'r toddaid hir. Ceir deg sillaf yn y llinell olaf yn hytrach na naw fel y ceir mewn toddaid cyffredin.

Cenir toddaid hir fel dwy linell olaf y mesur hir-a-thoddaid. Dyma enghraifft o waith Tudur Aled:[1]

Gwrol, tra gwrol, trugarog - wrol:
Ni bu dra gwrol na bai drugarog.

Cenid enghreifftiau cynnar yn bengoll, ond erbyn hyn, cynganeddir y llinell olaf ar ei hyd.

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. T. Gwynn Jones, Gwaith Tudur Aled mewn dwy gyfrol, Gwasg Prifysgol Cymru, 1926

Gweler hefyd

golygu