Toitū Te Reo

Gŵyl ddiwylliannol iaith Maori a ysbrydolwyd gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Toitū Te Reo (llyth. "Sefyll dros yr Iaith"?), yw'r ŵyl iaith Māori gyntaf a gynhelir yn benodol i ddathlu iaith, diwylliant a hunaniaeth Māori ac Aotearoa ehangach. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yng nghanol tref Heretaunga, (Hastings) ar 8 a 9 Awst 2024.[1] Yn ôl adroddiadau ar y digwyddiad, roedd yr ŵyl hanesyddol gyntaf hon yn llwyddiant[2] - gyda 7,000 o bobl wedi mynd i'r ŵyl.[3]

Toitū Te Reo
Enghraifft o'r canlynolgŵyl ddiwylliannol Edit this on Wikidata
IaithMaori Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2024 Edit this on Wikidata
Timoti Karetu, prif symbylydd yr ŵyl a ysbrydolwyd gan yr Eisteddfod

Hysbysir yr ŵyl fel dathliad dyrchafol o bopeth Māori sy'n cynnig cyfle i flasu bwyd a diwylliant Māori.

Seiliedig ar yr Eisteddfod

golygu
 
Cerfuniau traddodiadol Maori, Nga Pou o Heretaunga ym mwrdeistref Heretaunga lle cynhaliwyd y Toitū Te Reo gyntaf yn 2024

Dywed gwefan y digwyddiad bod Toitū Te Reo yn seiliedig yr Eisteddfod Gymraeg. Noda ei fod yn gyfle i siaradwyr Maori rhugl a phobl sydd newydd ddechrau ar eu taith gyda'r iaith i ymgynnull gyda siaradwyr eraill rhugl.[4] Yn ôl y trefnwyr, mae’r ŵyl yn seiliedig ar yr Eisteddfod Genedlaethol wedi i'r academydd ac arbenigwr ar ddiwylliant Māori, Sir Tīmoti Kāretu gael ei ysbrydoli gan y Brifwyl wrth ymweld â Chymru.[5] Yn benodol, roedd y profiad o drochi ieithyddol yn apelio ato, a hynny wedi’i hwyluso gan y ‘rheol Gymraeg’ sy’n gofyn bod pob perfformiad drwy gyfrwng y Gymraeg. Recordiwyd neges gan Archdderwydd Cymru, Mererid Hopwood o Eisteddfod Pontypridd yn datgan cefnogaeth i'r Toitū Te Reo gyntaf a chefnogaeth i ymgyrchwyr yr iaith Maori.[6]

Mae'r digwyddiad newydd yn estyniad o fentrau eraill gan gynnwys Te Wiki o te Reo Māori (wythnos iaith Māori).[5] Nodwyd mai dyma oedd dechrau "gwylaidd" i'r ŵyl a ysbrydolwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a'i bod yn uno pobl drwy'r iaith mewn digwyddiadau gan gynnwys cyngherddau am ddim ar un o brif strydoedd y dref.[7]

Partneriaeth

golygu

Mae Toitū Te Reo yn bartneriaeth rhwng Ngāti Kahungunu Iwi Inc, Cyngor Dosbarth Hastings a chwmni Kauwaka o Te Matau-a-Māui, ac mae ganddo gefnogaeth Kīngi Tūheitia Pōtatau Te Wherowhero VII a chadeiriau iwi o ynys boblog y Gogledd ac Ynys y De.[1]

Breuddwyd

golygu

Mae Toitū Te Reo yn ddyhead ers tro gan bencampwr iaith Maori uchel ei barch, yr academydd ac arbenigwr, Dr Sir Tīmoti Kāretu ac eraill, a bu'r hui ā-motu (cyfarfod genedlaethol) a gynhaliwyd yn Tūrangawaewae Marae ym mis Ionawr 2024 yn gatalydd ar gyfer gwireddu'r weledigaeth hon.[1]

Digwyddiadau

golygu

Mae gŵyl Toitū Te Reo yn cynnwys digwyddiadau rhad ac am ddim gan gynnwys wānanga, slam barddoniaeth rangatahi, stondinau bwyd, stondinau gwybodaeth, gofod kōhanga reo, man encil i rieni, llwybr celf, arddangosiadau byw, manwerthu a chyngherddau stryd.

Uchafbwynt yr ŵyl oedd sioe amrywiaeth llawn-seren â thocynnau gyda chomedi stand-yp dwyieithog, cerddorion a kapa haka.[1]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "About". Gwefan Toitū Te Reo. Cyrchwyd 12 Awst 2024.
  2. "Toitū Te Reo festival celebrates shared love for Māori language". 01 News. 10 Awst 2024.
  3. "Toitū Te Reo: World's first Te Reo Māori festival underway". Te Karere TVNZ. 9 Awst 2024.
  4. "Festival". Gwefan Toitū Te Reo. Cyrchwyd 12 Awst 2024.
  5. 5.0 5.1 "Yr Eisteddfod yn ysbrydoli gŵyl yn Seland Newydd". BBC Cymru Fyw. 8 Awst 2024.
  6. "First Māori language Eisteddfod held". Nation.Cymru. 9 Awst 2024.
  7. "This weekend's Toitū Te Reo festival has nearly sold out". Hawke's Bay App ar Youtube. 6 Awst 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Seland Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.