Roedd Tom Clapp (25 Hydref 1858 - 15 Hydref 1933) yn flaenwr rygbi rhyngwladol a chwaraeodd rygbi clwb i Glybiau Rygbi'r Fenni a Chasnewydd.[3] Enillodd 14 cap dros Gymru a bu'n gapten ar y tîm ar dri achlysur. Clapp oedd y chwaraewr cyntaf o Gasnewydd i fod yn gapten ar Gymru.

Tom Clapp
Enw llawn Thomas John Sercombe Clapp[1]
Dyddiad geni (1858-10-25)25 Hydref 1858
Man geni Marylebone, Llundain,
Dyddiad marw 15 Tachwedd 1933(1933-11-15) (75 oed)
Ysgol U. Ysgol Trefynwy
Gwaith Clerc erthyglau
Amaethwr ffwrwythau
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Blaenwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
1876-1888 Clwb Rygbi Blaenau Gwent
Clwb Rygbi y Fenni
Clwb Rygbi Casnewydd
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1882-1888[2] CymruCymru 14 (2)

Gyrfa rygbi

golygu

Ganwyd Clapp yn Portman Square, Marylebone, Llundain ym 1858, ond fe'i magwyd yng Ngwlad yr Haf.[4] Symudodd teulu Clapp i Nant-y-glo pan oedd yn dal yn ei ieuenctid. Byddai Clapp yn chwarae ei rygbi cynnar i Flaenau Gwent cyn symud i Glwb Rygbi y Fenni. Ym 1883 symudodd i dîm dosbarth cyntaf Casnewydd a gwnaeth Clapp argraff ar y clwb oherwydd yn nhymhorau 1884/85 a 1885/86 cafodd ei wneud yn gapten y tîm. Ym mis Mai 1888 gadawodd Clapp rygbi Cymru ar ôl ac ymfudo i Unol Daleithiau America [5] gan ddilyn ei frawd David a adawodd y flwyddyn cynt. Ym 1920 roedd y ddau frawd yn ffermwyr ffrwythau sitrws yng Nghaliffornia.

Gyrfa ryngwladol

golygu

Enillodd Clapp ei gap cyntaf ym 1882 yn erbyn Iwerddon, gêm lle sgoriodd gais. Y ddwy gêm nesaf, yn erbyn Lloegr a'r Alban, oedd ei olaf i Nant-y-glo. Byddai Clapp yn cynrychioli Cymru mewn 14 gêm ac ar 12 Mawrth 1887 roedd yn gapten ar Gymru ym Mharc Penbedw yn erbyn Iwerddon. Enillodd Cymru’r gêm oherwydd bod cais yn werth un pwynt, er bod Iwerddon wedi sgorio 3 chais i un Gymru, rhoddodd gôl adlam gan Arthur Gould y fuddugoliaeth i Gymru. Cadwodd Clapp y gapteniaeth ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn yr Alban, ac arwain ei wlad yn eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn tîm yr Alban. Ei gêm nesaf yn erbyn Iwerddon, ar 3 Mawrth 1888, oedd ei olaf fel capten a'i olaf yng nghrys Cymru.

Gemau rhyngwladol

golygu

Cymru [6]

  •   Lloegr 1883, 1884, 1885, 1887
  •   Iwerddon 1882, 1884, 1887, 1888
  •   yr Alban 1883, 1884, 1885, 1886, 1887, 1888

Llyfryddiaeth

golygu
  • Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Pen-y-bont ar Ogwr: Seren. ISBN 1-85411-262-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Newport RFC player profile Archifwyd 17 Mehefin 2011 yn y Peiriant Wayback
  2. WRU player profiles[dolen farw]
  3. "South Wales Football Players - South Wales Echo". Jones & Son. 1886-03-01. Cyrchwyd 2020-06-15.
  4. Parry-Jones (1999), tudalen 36.
  5. "MR T J CLAPP OF NEWPORT - The Western Mail". Abel Nadin. 1888-05-07. Cyrchwyd 2020-06-15.
  6. Smith (1980), pg 464.