Nant-y-glo

pentref ym Mlaenau Gwent

Pentref mawr yng nghymuned Nantyglo a Blaenau, bwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Nant-y-glo.[1][2] Saif ychydig i'r de o Fryn-mawr ac i'r gogledd o'r Blaenau.

Nant-y-glo
Road to Coalbrookvale, Nantyglo.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBlaenau Gwent Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7828°N 3.1698°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO195105 Edit this on Wikidata
Cod postNP13 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAlun Davies (Llafur Cymru)
AS/auNick Smith (Llafur)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Nick Smith (Llafur).[3][4]

Yn y 19g, roedd Nant-y-glo yn un o ardaloedd cynhyrchu haearn pwysicaf y byd. Datblygwyd Gwaith Haearn Nant-y-glo gan Crawshay Bailey, ac erbyn tua 1844 roedd gweithfeydd haearn a glo y teulu yn cyflogi 3,000 o ddynion a 500 o wragedd a phlant.

Cadwai'r Siartydd Zephaniah Williams dafarn y Royal Oak yma. Gyda John Frost a William Jones, arweiniodd nifer fawr o wŷr o ardal Nant-y-glo i ddinas Casnewydd yn 1839. Roedd Beriah Gwynfe Evans yn enedigol o'r pentref.

Gwybodaeth arallGolygu

Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 373 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 325 o bobl yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 280 o bobl yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 9.6% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[5]

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Rhagfyr 2021
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. "The Changing Face of Wales - Welsh Speakers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-01. Cyrchwyd 2013-03-24.