Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandudno 1963
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1963 yn Llandudno, Sir Gaernarfon (Conwy bellach). Archdderwydd yr eisteddfod oedd Cynan.
Llun gan Geoff Charles | ||||
- |
||||
Archdderwydd | Cynan | |||
Cadeirydd | B. Haydn Williams | |||
Llywydd | Syr T. H. Parry-Williams | |||
Enillydd y Goron | Tom Parri-Jones | |||
Enillydd y Gadair | neb yn deilwng | |||
Y Fedal Ryddiaith | W. Llewelyn Jones | |||
Y Fedal Ddrama | Gwilym T. Hughes |
Fe gafodd ffilm o'r Eisteddfod ei saethu gan Dr John Glyn Jones, Brynsiencyn.[1]
Yr unig flywyddyn arall y cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yn Llandudno oedd 1896.
Prif gystadlaethau
golyguCystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Genesis | Neb yn deilwng | |
Y Goron | Y Bont | Tom Parri Jones | |
Y Fedal Ryddiaith | Ar Grwydr | W. Llewelyn Jones | |
Tlws y Ddrama | Gwilym T. Hughes |
Y wasg
golyguMewn erthygl yn y National Geographic yn 1965 disgrifiodd yr Awstraliad, Alan Villiers, y seremoni cadeirio yn Llandudno yn 1963:[2]
No event symbolizes more vividly the poetic soul of the Welsh and the unyielding pride and integrity that accompany it than the ceremony of Chairing the Bard. This is the high point of the annual National Eisteddfod. ... The large stage of an enormous prefabricated pavilion was banked with robed bardic dignitaries and the television lights stabbed at them like searchlights
Ond wedi dyfarniad y beirniaid Thomas Parry, T. H. Parry-Williams a William Morris:
No poem submitted was deemed worthy, ... the ritual Chairing of the Bard would not take place. Merit before ritual - no ritual for its own sake! ... The 8,000 still sat there in the huge pavilion, as if they had been stunned. Where else, I thought, would people feel so intensely about poetry?
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandudno 1896 – achlysur arall pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Llandudno
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-30. Cyrchwyd 2017-05-17.
- ↑ "Cenedl sy'n anrhydeddu beirdd", Gwefan Amgueddfa Cymru; adalwyd 13 Mai 2021