Chwaraewr Rygbi'r Undeb dîm rhanbarthol Gleision Caerdydd a Chymru yw Tomos George L. "Tom" Shanklin (ganed 24 Tachwedd 1979. Mae'n chwarae fel canolwr.

Tom Shanklin
Ganwyd24 Tachwedd 1979 Edit this on Wikidata
Harrow Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Howard of Effingham School
  • Ysgol Greenhill Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra188 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau95 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Saracens F.C., Clwb Rygbi Cymry Llundain, Rygbi Caerdydd, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Harrow, yn fab i Jim Shanklin, a enillodd bedwar cap dros Gymru. Bu'n chwarae i Gymry Llundain a Saracens cyn ymuno a'r Gleision yn 2003.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn Japan yn Tokyo yn 2001, gan sgorio dau gais. Chwaraeodd ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc yr un flwyddyn. 32 mlynedd ynghynt, roedd ei dad wedi chwarae ei gêm gyntaf i Gymru yn erbyn yr un gwrthwynebwyr.

Roedd yn rhan o dîm Cymru pan enillwyd y Gamp Lawn yn 2005, a dewiswyd ef ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn 2005. Fodd bynnag, anafodd ei ben-glin yn ddrwg yn gynnar yn y daith, ac ni chwaraeodd lawr yn nhymor 2006. Erbyn 2008 roedd wedi ad-ennill ei le, a bu'n rhan o'r tîm a gyflawnodd y Gamp Lawn eto yn 2008. Nodwyd nad yw Cymru wedi colli unrhyw gêm lle dechreuodd ef a Gavin Henson y gêm fel canolwyr.