Chwaraewr Rygbi'r Undeb Cymreig yw Gavin Lloyd Henson (ganed 1 Chwefror 1982), ar hyn o bryd yn chwarae i'r Gweilch, fel canolwr yn bennaf.

Gavin Henson
Ganwyd1 Chwefror 1982 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, chwaraewr rygbi'r gynghrair Edit this on Wikidata
Taldra183 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau100 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Llanelli, Clwb Rygbi Abertawe, Y Gweilch, Saracens F.C., RC Toulonnais, Rygbi Caerdydd, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Bath Rugby, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, West Wales Raiders Edit this on Wikidata
SafleCanolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ganwyd Henson ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn fab i Alan Henson, a fu'n chwarae i Faesteg fel prop. Chwaraeodd rygbi dros ei ysgol, Ysgol Gyfun Brynteg.

Cafodd ei enwi fel "Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn" gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn 2001. Daeth i amlygrwydd oherwydd ei berfformiadau dros Gymru yn erbyn y Crysau Duon a De Affrica yn hydref 2004 ac yna ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005 pan enillodd Cymru y Gamp Lawn, yn enwedig pan giciodd y gôl gosb a sicrhaodd fuddugoliaeth dros Loegr yn y gêm gyntaf.

Fe'i dewiswyd ar gyfer taith y Llewod Prydeinig a Gwyddelig i Seland Newydd yn haf 2005. Cafodd ei adael allan o'r tîm ar gyfer y gêm brawf gyntaf er mwyn gwneud lle i Jonny Wilkinson chwarae fel canolwr. Bu llawer o ddadlau ynglŷn â hyn, ac fe gafodd ei ddewis i chwarae yn yr ail gêm brawf. Cafodd ei anafu yn y gêm yma, ac ni chwaraeodd eto ar y daith nac ar ddechrau tymor 2005-06.

Am wahanol resymau, Gavin Henson sydd â'r proffil uchaf o holl chwaraewyr presennol Cymru. Daeth yn fwy adnabyddus fel cariad Charlotte Church, ac am eillio ei goesau cyn y gemau. Yn Hydref 2005 cyhoeddodd lyfr My Grand Slam Year, lle beirniadodd agweddau ar reolaeth taith y Llewod i Seland Newydd a'r ffaith bod chwaraewyr nad oeddynt yn Gymry yn medru cymhwyso eu hunain i chwarae yn y tîm cenedlaethol, yn ogystal â chyhuddo Brian O'Driscoll o geisio anafu ei lygad yn y gêm yn erbyn Iwerddon yn 2005.

Ar Ragfyr 23ydd 2005 cafodd Gavin Henson ei wahardd am ddeg wythnos gan gynrychiolwyr Cwpan Ewropiaidd Rygbi fel cosb am ddefnyddio ei ben-elin yn erbyn prop mewn gêm yn erbyn y Leicester Tigers.

Mae gan Henson a Charlotte Church ddau o blant, Ruby Megan Henson (Tachwedd 2007) a Dexter Lloyd Henson (Ionawr 2009).[1]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Enwi mab i Charlotte a Gavin. BBC Cymru (12 Ionawr 2009).