Tomwellt
Mae tomwellt (Saesneg: mulch) yn enw ar ddeunydd organig a roir ar bridd ac wrth wraidd neu foncyff planhigion er mwyn gwella a diogelu'r pridd oddi tano a gwella a hirhau bywyd tyfu a ffrywthnlon y planhigyn sy'n ganolbwynt i'r tomwellt.[1] Mae'n hen arfer amaethyddol a geir sawl gwahanol ffurf arni gyda thechnoleg a hefyd mewn modd paramaethyddol.
Math | deunydd, aggregate |
---|---|
Deunydd | pren, rhisgl, rwber, gwrtaith, lliwur, gwellt, deilen, carreg, pridd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pwrpas tomwellt
golygu- Arbed y pridd rhag ei erydu gan wynt neu ormod o ddŵr neu ddiffyg dŵr/sychder
- Rheoli a chymhedroli tymheredd y ddaear - cynyddu pan fydd tymheredd yn oer, lleihau pan fydd yr haul yn gras
- Rheoli ac arbed y planhigyn targed rhag tŵf a lledaeniad chwyn a nacáu gallu y chwyn i egino
- Arbed y planhigyn targed rhag mynd yn frwnt wrth gyffwrdd â phridd
- Lleihau anweddiad ac amddiffyn dad-hydriad
- Cynyddu ffrwythlondeb y pridd
Denydd a ddefnyddir fel tomwellt
golyguGellir defnyddio amrywiaeth o ddeunydd organig neu fwy neu lai unrhyw beth. Y deunydd mwyaf defnyddiol yw:
- dail, gwellt, blawd llif, gwlân, tail, gwrtaith/compost, sglodion pren, plisgyn coed, mawn, papur, cardbord etc.
Gellir hefyd ddefnyddio deunydd diwydiannol a ddefnyddir ar ffermydd amaethyddol ffrwythau a llysiau maint masnachol yn aml:
- plastig (polywrethan, finyl polychlorid, mathau eraill o blastig), blancedi thermal.
Tomwellt ar gyfer adferiad tir crin
golyguBydd lladmeryddion dulliau amaethu paramaethu a defnyddio dŵr yn ddarbodus, fel Geoff Lawton a Neal Spackman yn tanlinellu rhan greiddiol tomwelltu ar gyfer gwella tir (a thir heli yn arbennig) sydd wedi dirywio o ganlyniad i or-bori, sychder a cham-reoli. Nodant ei fod yn ffordd rhad, ecolegol a hunangynhaliol o wella cnwd yr amaethwr a hynny heb ddefnyddio chwynladdwyr na defnyddio cemegion.[2] Byddant yn gwneud defnydd o domwellt wedi eidaenu mewn swêl.[3][4]
Gwneir defnydd o lenyddiaeth yr Almaenes, Gertrud Franck a'i llyfr Companion Planting: Successful Gardening the Organig Way[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-18. Cyrchwyd 2018-12-25.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-15. Cyrchwyd 2018-12-25.
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=WUnQ4GeUZUA
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=iB_7-l1OzBs
- ↑ https://www.soilandhealth.org/wp-content/uploads/0302hsted/030217franck/franck.pdf
Oriel
golygu-
Tomwellt wrth wraidd coeden gnau coco
-
Tomwellt o ddail pinwydd o gylch coed
-
Tomwellt o bren mâl
-
Cyperus rotundus yn tyfu drwy domwellt plastig
-
plastig yn cael ei ddefnyddio fel tomwellt i dyfu xili
-
Tractor gydag offer creu a gwasgaru tomwellt
-
Tomwellta, gollwng tomwellt dros dir llosg