Tonia Antoniazzi

gwleidydd Cymreig ac AS

Gwleidydd gyda'r Blaid Llafur ac Aelod Seneddol dros etholaeth Gwyr yw Tonia Antoniazzi (ganwyd 5 Hydref 1971).[1]

Tonia Antoniazzi
AS
Aelod Seneddol
Gwyr
Yn ei swydd
Dechrau
8 Mehefin 2017
Rhagflaenydd Byron Davies
Mwyafrif 3,269 (7.2%)
Manylion personol
Ganwyd (1971-10-05) 5 Hydref 1971 (52 oed)
Llanelli
Plaid wleidyddol Llafur
Alma mater Coleg Gorseinon
Prifysgol Caerwysg
Prifysgol Caerdydd

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd a magwyd Tonia yn Llanelli i fam a oedd yn Gymraes a thad a oedd yn Eidalwr. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gatholig John Lloyd a Choleg Gorseinon. Astudiodd Tonia Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Exeter gan ennill Tystysgrif Ol-raddedig mewn Addysg o Brifysgol Caerdydd. Aeth ymlaen i gael ei phenodi yn bennaeth ieithoedd yn Ysgol Bryngwyn, Llanelli. Mae hefyd yn gyn-chwaraewraig rygbi rhyngwladol dros Gymru.[2]

Gyrfa seneddol

golygu

Safodd Tonia yn Etholiad Cyffredinol 2017 fel ymgeisydd i etholaeth Gwyr, a oedd ar y pryd yn cael ei dal gan y Ceidwadwr Byron Davies gyda mwyafrif o 27 pleidlais, y sedd fwyaf ymylol yn y Deyrnas Gyfunol. Bu'n llwyddiannus, gan ennill y sedd i'r Blaid Lafur gyda mwyafrif o 3,269 o bleidleisiau.

Gwnaeth Antoniazzi ei araith gyntaf ar ddydd Iau 29 Mehefin 2017. Yn ei araith trafododd sut gwnaeth mewnfudo Eidalaidd ddylanwadu ar ddiwylliant caffi yng Nghymru a'r DU.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Tonia Antoniazzi MP". myparliament.info. MyParliament. Cyrchwyd 11 August 2017.
  2. http://swanseabaytimes.com/32940/282819/a/ex-welsh-womens-rugby-player-contests-uks-most-marginal-seat[dolen farw] Swansea Bay Times, Mehefin 2017
  3. Cornock, David (29 Mehefin 2017). "New MP claims credit for ice cream - and cafe culture". BBC News. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2017.