Byron Davies

gwleidydd Cymreig

Mae Henry Byron Davies (a aned 4 Medi 1952) yn wleidydd Plaid Geidwadol, sydd wedi cynrychioli Rhanbarth Gorllewin De Cymru fel AC a Gwŷr fel AS.

Byron Davies
Aelod Cynulliad,
Rhanbarth Gorllewin De Cymru
Rhagflaenwyd ganMartin Caton
Dilynwyd ganTonia Antoniazzi
Mewn swydd
6 Mai 2011 – 8 Mai 2015
Rhagflaenwyd ganDr Dai Lloyd
Dilynwyd ganAltaf Hussain
Aelod Seneddol
Gwyr
Mewn swydd
7 Mai 2015 – 3 Mai 2017
Manylion personol
Ganed (1952-09-04) 4 Medi 1952 (71 oed)
Abertawe
Plaid gwleidyddolY Blaid Geidwadol
Alma materUniversity of West London
Gwefanbyrondavies.org.uk

Bywyd a gyrfa gynnar golygu

Ganed Byron Davies ym Mhorth Einon, Gŵyr ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Tre-gŵyr.[1] Roedd yn swyddog heddlu yn Llundain cyn ei ddethol fel ymgeisydd Cynulliad Ceidwadwyr Cymru. Tra yn yr heddlu, fe gyrhaeddodd radd uwch fel ditectif yng Ngwasanaeth Heddlu'r Metropolitan.[2]

Gyrfa wleidyddol golygu

Etholwyd Davies yn Aelod Cynulliad Rhanbarth Gorllewin De Cymru ar restr y Blaid Geidwadol yn Etholiad Cynulliad 2011. Yn Etholiad Cyffredinol Y Deyrnas Unedig 2015 safodd fel ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholaeth Gŵyr gan lwyddo i gipio'r sedd oddi wrth y Blaid Lafur, gan ddod i ben cyfnod di-dor o 109 mlynedd o gynrychiolaeth Llafur yr etholaeth. Wedi ei ethol i Sansteffan safodd i lawr fel AC. Yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017 collodd Davies ei sedd wrth i Lafur cipio'r etholaeth yn ôl.[3]

Roedd Davies yn gwrthwynebu aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd yn ystod refferendwm 2016.[4] 

Gyrfa ôl-Seneddol golygu

Ym mis Medi 2017 penodwyd Davies yn gadeirydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig yn olynydd i'r cyn AS ac ASE Jonathan Evans.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Wales Online. "Who are the candidates standing in Gower in the General Election 2017?". Wales Online. Cyrchwyd 9 June 2017.
  2. Blake, Aled (6 May 2011). "Assembly election: Meet the incoming AMs". WalesOnline website. Media Wales Ltd. Cyrchwyd 13 May 2011.
  3. "Wales elections > South Wales West". BBC News. BBC. 6 May 2011. Cyrchwyd 13 May 2011.
  4. Goodenough, Tom (16 February 2016). "Which Tory MPs back Brexit, who doesn't and who is still on the fence?". The Spectator. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-22. Cyrchwyd 11 October 2016.
  5. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-41147472


Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Dr Dai Lloyd
Aelod Cynulliad dros Rhanbarth Gorllewin De Cymru
20112015
Olynydd:
Altaf Hussain
Rhagflaenydd:
Martin Caton
Aelod Seneddol etholaeth Gŵyr
20152017
Olynydd:
Tonia Antoniazzi